Dyddiau hapusaf eich bywyd?

Arddun

Pa mor aml ydych chi'n medru adnabod y diwrnod, awr, munud neu eiliad wnaeth newid eich bywyd?

Mae Arddun Rhiannon yn trin a thrafod materion iechyd meddwl yn rheolaidd ar ei blog, ac yma, mae'n ceisio taflu goleuni ar gyfnod allweddol yn ei bywyd.


Pan dwi'n clywed pobl yn dweud y byddent yn gwneud unrhyw beth i fynd yn ôl i'r ysgol uwchradd, dwi methu uniaethu o gwbl.

Do, mi ges i adegau o chwerthin a malu awyr efo fy ffrindiau, ond negyddol fyswn i'n disgrifio y rhan fwyaf o'n amser i yno - yn enwedig yn ystod yr wythnosau a misoedd cyntaf. Roedd o'n hunllef.

Mi ges i fy ngalw'n enwau, clywed synau 'uuu' wrth imi gerdded mewn i'r dosbarth, derbyn sylwadau annifyr ar y wê. Cael bwyd wedi ei daflu arnai, a chael fy maglu ar y coridor.

Be' oedd yn anoddach oedd bod gen i ddim grŵp o ffrindiau yn dod fyny efo fi o'r ysgol gynradd na ffrindiau newydd i fy nghefnogi yn ystod y cyfnod hwn, chwaith - neb i ddweud wrth y bwlis i stopio. Mi o'n i ar ben fy hun.

Cael fy mwlio i'r fath eithaf ym mlwyddyn 7 wnaeth achosi i mi ddatblygu gorbryder cymdeithasol, a dwi ddim yn gorddweud pan dwi'n datgan mai delio efo hwnnw ydi un o'r heriau mwyaf dwi wedi gorfod ei wynebu erioed.

Mae o wedi dwyn lot o gyfleoedd oddi wrthai. Pan o'n i'n fengach, o'n i'n mwynhau bod ar y llwyfan, cystadlu yn yr Urdd, actio mewn cyngherddau ysgol a pherfformio yn gyffredinol. Mae hyd yn oed meddwl am wneud pethau felly yn codi rhyw ofn arna i erbyn hyn.

Ro'n i hefyd yn arfer bod yn hyderus yn y dosbarth, bob tro yn barod i ateb cwestiynau, ac yn ffrindiau efo pawb.

Erbyn diwedd blwyddyn 7, ac o hynny allan, doeddwn i methu ateb yr un cwestiwn yn y dosbarth - rhy ofnus i ddweud unrhyw beth.

Roedd gen i ofn cael sylwadau cas, neu cael yr ateb yn anghywir a fysa pawb yn chwerthin ar fy mhen i wedyn. Roeddwn i wedi fy mharlysu.

Image caption Arddun (canol) gyda rhai o'r ffrindiau coleg sydd wedi bod yn gefn iddi

Heb amheuaeth, dwi wedi gorfod dechrau o'r dechrau pan mae'n dod at fy hunan hyder. Cafodd ei chwalu yn llwyr pan o'n i'n 12 oed, a dim ond ers y llynedd ac eleni dwi wedi dechrau teimlo'n falch o bwy ydw i eto.

Mae meddwl am sut all pethau fod wedi troi allan os na fysa hyn wedi digwydd yn ddiddorol. Dwi'n ceisio peidio meddwl 'be os' yn rhy aml, gan mai digwyddiadau bywyd sydd yn eich diffinio chi i bob pwrpas.

Ar un wedd, mae o wedi fy ngwneud i'n gryfach person, ond mae rhan ohona i yn flin bod o wedi digwydd.

Pwy a ŵyr sut fath o berson byswn i heddiw os fysa amgylchiadau wedi bod yn wahanol a byswn i wedi gwneud ffrindiau da yn syth, neu wedi bod o amgylch criw o bobl wahanol. Mae'n anodd dweud, ond dwi'n reit sicr y byswn i'n unigolyn hapusach fy nghroen a llai ofnus o leisio fy marn.

Erbyn hyn, dwi ar fin gorffen yn y Brifysgol, ac wedi bod yn ffodus iawn i gyfarfod a byw efo ffrindiau fydd yn ffrindiau oes, ac astudio mewn adran wych sydd wedi deall yr anawsterau dwi'n ei gael o bryd i'w gilydd.

Eu cefnogaeth nhw a fy nheulu, wrth i mi frwydro yn erbyn y cyflwr yn ddyddiol, sydd wedi 'ngalluogi i ddechra' dod yn ôl i'r Arddun o'n i 10 mlynedd yn ôl. Yr Arddun go iawn.

Os welwch chi unrhyw un yn cael ei bwlio, wyneb yn wyneb neu ar y wȇ, plîs peidiwch â'i anwybyddu.

Mae gormod o bobl wedi dioddef mewn distawrwydd ac yn parhau i ddelio gyda sgileffeithiau'r profiadau annifyr a gawsant. Byddwch yn ddewr a siaradwch allan, dwi'n gaddo y bydd o werth o.

Pynciau Cysylltiedig