'Dim digon o alw' am gwrs TGAU Seicoleg arbennig i Gymru

Dosbarth

Ni fydd fersiwn arbennig o gwrs TGAU Seicoleg yn cael ei ddarparu ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru, yn ôl rheolydd cymwysterau annibynnol.

Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn ystyried opsiynau fel rhan o ymchwiliad mewn ymateb i'r galw gan "nifer fach o ysgolion i ddatblygu cymhwyster TGAU Seicoleg dwyieithog diwygiedig ar gyfer Cymru, yn bennaf i ateb y galw cyfyngedig am fersiwn iaith Gymraeg".

Ond mewn llythyr at ysgolion uwchradd Cymru, mae'r corff yn dweud nad yw wedi bod yn bosib goresgyn rhwystrau sy'n atal dau fwrdd arholi - CBAC a Pearson - rhag cydweithio er mwyn cynnig y cymhwyster.

Fe gadarnhaodd Pearson y llynedd nad oedd yn bwriadu cynnig TGAU Seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg o fis Medi 2017 oherwydd diffyg arholwyr â'r sgiliau Cymraeg angenrheidiol i allu cynnig asesiadau cyfrwng Cymraeg.

Mae dau fwrdd arall - AQA ac OCR - wedi cadarnhau na fyddan nhw'n cynnig unrhyw rai o'u cymwysterau TGAU a Safon Uwch diwygiedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

'Nifer isel'

Yn hydref y llynedd fe wnaeth Cymwysterau Cymru gysylltu ag ysgolion oedd wedi cofrestru ymgeiswyr yn y gorffennol gyda CBAC ar gyfer TGAU Seicoleg er mwyn mesur maint tebygol y galw am gymhwyster dwyieithog newydd o fis Medi 2019.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys y posibilrwydd o barhau i gynnig hen gymhwyster TGAU CBAC fel mesur pontio nes y byddai fersiwn ddiwygiedig ar gael.

Dan y drefn honno roedd y cymhwyster yn cael ei ddatblygu ar gyfer Lloegr ac yn gymwys i gael cyllid yng Nghymru, ond ddim ar gael trwy'r Gymraeg.

Ond yn eu llythyr, sydd hefyd i'w weld ar eu gwefan, dywedodd Cymwysterau Cymru bod CBAC wedi ystyried canlyniadau'r arolwg a phenderfynu "na fyddai datblygu fersiwn o gymhwyster TGAU Seicoleg ar gyfer Cymru yn unig yn ddefnydd effeithiol o'i adnoddau o ystyried y byddai nifer yr ymgeiswyr a fyddai'n astudio'r cymhwyster yn debygol o fod yn isel".

Fe gyfeiriodd CBAC hefyd at ganlyniadau arolwg gan y Gymdeithas Athrawon Seicoleg (ATP) ar draws y DU yn nodi nad oedd 83% o'r ymatebwyr yn bwriadu addysgu'r pwnc ar lefel TGAU.

'Y frwydr ar ben'

Mae'r penderfyniad wedi siomi Chris Evans, pennaeth adran seicoleg Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, wnaeth gasglu dros 600 o enwau ar ddeiseb yn galw am degwch i ddisgyblion sydd eisiau dysgu'r pwnc yn Gymraeg wedi penderfyniad CBAC yn 2015 i roi'r gorau i gynnig y cymhwyster am fod cyn lleied o ymgeiswyr.

Image caption Yn ôl Chris Evans mae'n rhy hwyr i berswadio'r byrddau arholi bod angen dysgu'r pwnc yn Gymraeg

Dywedodd wrth raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru ddydd Mawrth: "Rydw i 'di trïo 'ngorau ond 'dwi'n meddwl bod y frwydr ar ben, yn anffodus.

"Rydw i 'di trïo perswadio CBAC a Cymwysterau Cymru ei bod hi'n annheg bod ysgolion cyfrwng Saesneg yn dal efo'r opsiwn o wneud y cwrs Seicoleg TGAU drwy'r Saesneg ond 'da ni ddim efo'r un cyfle mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ychwanegodd ei bod yn "gamgymeriad" gwahodd byrddau arholi Saesneg i gynnig pynciau fel Seicoleg yng Nghymru heb fynnu darpariaeth Gymraeg "pan oedd 'na alw ar y pryd".

Dywedodd llefarydd ar ran Cymwysterau Cymru: "Yn y lle cyntaf mae'n bwysig ein bod ni'n cynnal deialog agored gyda'r holl gyrff dyfarnu, ond, yn y pen draw, nhw sy'n gwneud y penderfyniad terfynol.

"Ein nod, bob tro, yw dod o hyd i ateb sydd er lles gorau dysgwyr Cymru. Yn yr achos arbennig hwn, ni ellir dod o hyd i ateb ymarferol ar hyn o bryd."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol