Y Bencampwriaeth: Brentford 1-3 Caerdydd

Brentford v Caerdydd Image copyright Getty Images
Image caption Kenneth Zohore sgoriodd trydedd gêl Caerdydd yn y fuddugoliaeth yn erbyn Brentford

Mae Caerdydd yn parhau yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth a saith pwynt i ffwrdd o'r trydydd safle ar ôl ennill yn Brentford o 3-1 nos Fawrth.

Brentford ddechreuodd y gêm orau ac roedden nhw'n haeddu bod ar y blaen wedi pum munud.

Pêl wych o ganol cae gan Sergi Canos i Neal Mupau, ac fe orffennodd yr ymosodwr gydag ergyd dda heibio i Etheridge yn y gôl o 20 llath.

Daeth Caerdydd yn gyfartal ar ôl 25 munud. Sol Bamba yn troi'n gyflym yn y cwrt cosbi ac yn gorffen y symudiad gydag ergyd wych i gefn y rhwyd.

Roedd Brentford yn credu y dylai nhw fod wedi cael cic o'r smotyn pan darodd y bêl fraich Marko Grujić yn y cwrt cosbi, ond doedd gan y dyfarnwr ddim diddordeb yn y protestiadau.

Bwlch ar y brig

Fe aeth Caerdydd ar y blaen ar ôl sgorio yn yr amser oedd yn cael ei ychwanegu at ddiwedd yr hanner cyntaf.

Croesiad Junior Hoillett i'r cwrt a Martin Patterson oedd yno i osod y bêl yn y rhwyd.

Daeth y drydedd i'r Adar Gleision ar ôl 58 munud. Fe beniodd Hoilett y bêl i gyfeiriad Kenneth Zohore cyn i'r ymosodwr guro Bentley yn y gôl i Brentford.

Mae buddugoliaeth Caerdydd a'r ffaith fod Aston Villa sy'n drydydd wedi colli yn erbyn QPR yn golygu fod yr Adar Gleision bellach saith pwynt yn glir yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth.