Medal arall i Menna Fitzpatrick yn PyeongChang

Menna Fitzpatrick a Jen Kehoe Image copyright Getty Images

Mae'r sgïwr rhannol ddall o Gymru, Menna Fitzpatrick, a'i thywysydd Jen Kehoe, wedi ennill y fedal arian yn y Giant Slalom yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn PeyongChang.

Fe ddaeth y ddwy yn ail yn y gystadleuaeth, gan orffen mewn amser o 2:28.34, bwlch o 5.34 eiliad y tu ôl i Henrieta Farkasova a Natalia Subrtova o Slofacia.

Dyma'r drydedd fedal i'r Gymraes yn y gemau.

Mae'n ychwanegu at y fedal efydd gafodd y ddwy ddydd Sul, a'r un arian ar ôl dod yn ail i Farkasova a Subrtova yn y ras uwch gyfunol ar gyfer merched rhannol ddall.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol