Jamie Roberts i ymuno â Chaerfaddon ar ddiwedd y tymor

Jamie Roberts Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Mae Jamie Roberts wedi ennill 94 cap dros Gymru

Bydd Jamie Roberts, sydd wedi chwarae fel canolwr i Gymru, yn ymuno â chlwb Caerfaddon o Harlequins ar ddiwedd y tymor.

Roedd ei gytundeb gyda'r clwb o Lundain yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, a bydd yn ymuno â nifer o'i gyd-Gymry - gan gynnwys Taulupe Faletau a Rhys Priestland - yng Nghaerfaddon.

Fe wnaeth y canolwr ymuno â Harlequins o Racing 92 yn Ffrainc yn 2015, a hynny ar ôl gadael y Gleision yn 2013.

Am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd, doedd y gŵr 31 oed ddim yn rhan o'r garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Ond mae wedi dweud ei fod eisiau adennill ei le yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd 2019 yn Japan.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol