Canolfan Channel 4: Caerfyrddin a Wrecsam i ymgeisio?

Channel 4 Image copyright Getty Images
Image caption Mae Channel 4 am symud 300 o staff i dair canolfan y tu allan i Lundain

Mae BBC Cymru ar ddeall bod Caerfyrddin a Wrecsam yn ystyried ceisiadau i ddenu Channel 4 pan fydd rhai staff y sianel yn symud o Lundain flwyddyn nesaf.

Mae Caerdydd eisoes wedi datgan ei bwriad i wneud cais am un o'r tair canolfan newydd sy'n cael eu sefydlu gan y darlledwr, gan gynnwys pencadlys cenedlaethol newydd.

Flwyddyn nesaf bydd Channel 4 yn symud 300 o staff o Lundain, ac mae'r prif weithredwr wedi ymrwymo i gynyddu faint sy'n cael ei wario ar raglenni sy'n cael eu cynhyrchu y tu allan i brifddinas y DU.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae Caerfyrddin a Wrecsam wedi trio cryfhau eu cymwysterau fel canolfannau ar gyfer sgiliau cynhyrchu teledu.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn creu Yr Egin yng Nghaerfyrddin, fydd yn gartref i bencadlys newydd S4C, tra bod Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi buddsoddi mewn canolfan diwydiannau creadigol.

Image caption Mae sgiliau cynhyrchu teledu yn cael eu dysgu yng nghanolfan Diwydiannau Creadigol Prifysgol Glyndŵr

Mae disgwyl i gais Caerdydd ganolbwyntio ar ardal y Sgwâr Canolog, lle mae pencadlys newydd y BBC yn cael ei adeiladu, a lle bydd ysgol newyddiaduraeth, cyfryngau a diwylliant Prifysgol Caerdydd yn symud yn yr hydref.

Gall lleoliadau sydd â diddordeb denu Channel 4 wneud cais ffurfiol i'r darlledwr o fis Ebrill, gyda phenderfyniad ar leoliad terfynol y tri safle yn yr hydref.

'Lleoliad amlwg'

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cefnogi cynlluniau i ddenu Channel 4 i Gymru, ac mae wedi cefnogi cyhoeddiad ffurfiol Cyngor Caerdydd.

Image caption Mae Llywodraeth Cymru'n "awyddus iawn" i weld os oes modd cydweithio â Channel 4, medd yr Arglwydd Elis-Thomas

Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai Llywodraeth Cymru'n cynnig benthyciadau neu adeiladau i Channel 4 fel sydd wedi digwydd wrth ddenu cwmnïau creadigol eraill yma, fe ddywedodd y gweinidog diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Beth sydd yn bwysig am Channel 4 ydy eu bod nhw yn ddarlledwr cyhoeddus yn ei ethos ac yn eu cynnwys, ond eu bod nhw hefyd yn gorff masnachol effeithiol iawn ym maes y cyfryngau.

"Ac felly dwi'n meddwl y byddwn nhw'n deall yn union beth fydd yn bosib i ni fel llywodraeth i'w wneud a 'da ni'n awyddus iawn i wneud hynny os gawn ni y cyfle."

Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas y gallai Cymru fod yn gartref addas iawn i Channel 4.

"Yn amlwg, y peth pwysig i ni yw sefydlu egwyddor y lleoliad, ac atyniad Caerdydd. A hynny yn seiliedig ar y sgiliau sydd gennym yma yn nhermau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu," meddai.

Er y byddai sicrhau un o'r tair canolfan gynhyrchu yn wobr i Gymru, mae cynhyrchwyr annibynnol eisoes yn dathlu ymrwymiad gan Channel 4 i gynyddu'r gwariant ar raglenni sy'n cael eu cynhyrchu y tu allan i Lundain.

'Cyfle euraidd'

Bydd y darlledwr yn cynyddu ei gwota i wario 35% o'i gyllideb ar y cynnwys a gynhyrchir yng ngwledydd a rhanbarthau'r DU i darged gwirfoddol newydd o 50% erbyn 2023.

Dywed Channel 4 fod hyn yn gyfystyr â chynnydd o dros £250m yn y swm sy'n cael ei wario y tu allan i Lundain.

Mae un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf Cymru, Rondo, eisoes yn creu rhaglenni ar gyfer Channel 4, gan gynnwys y sioe ddyddiol Find It, Fix It, Flog It a rhaglenni dogfen trwy ei is-gwmni Yeti.

Image copyright Prifysgol Y Drindod Dewi Sant
Image caption Yr Egin fydd cartref pencadlys S4C

Dywedodd Gareth Williams, prif weithredwr Rondo a chadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, fod cynlluniau Channel 4 yn "gyfle euraidd" i'r diwydiant.

"Rwy'n credu ein bod wedi symud i ffwrdd o'r sefyllfa ychydig flynyddoedd yn ôl pan efallai bod rhai rhaglenni dogfen sengl, ac ambell i gyfres fer, yn cael eu comisiynu o Gymru ar gyfer Channel 4," meddai.

"Mae gennym hyder y byddwn yn gallu dod o hyd i fwy o waith yn y maes yma, ac mae Channel 4 bellach yn edrych ar ystod ehangach o bartneriaid cynhyrchu ar draws y DU i'w helpu i gyflawni'r nod [o gynyddu ei gwota].

"Rwy'n credu ei fod yn gyfle euraidd i gynhyrchwyr yma yng Nghymru."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol