Menyw 80 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A487

Heddlu

Mae menyw wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion fore Mawrth.

Un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd ar yr A487 rhwng Aberaeron a Llanon.

Bu farw'r ddynes 80 oed yn y fan a'r lle.

Car glas Suzuki Ignis oedd y cerbyd, ac mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu trwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig