Tai
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Digartrefedd: 'Dim digon o dai i ddelio â'r galw'

14 Mawrth 2018 Diweddarwyd 21:42 GMT

Does dim digon o dai ar gael i ddelio â'r galw am gartrefi cymdeithasol - dyna mae gweithwyr ym maes digartrefedd wedi ei ddweud wrth Newyddion 9.

Mae gwaith ymchwil gan y rhaglen yn awgrymu bod degau o filoedd o bobl yn aros am dai cymdeithasol ar draws y wlad.

Mam a merch o Ddinbych fu'n sôn am eu profiadau personol nhw wrth Dafydd Gwynn.