Cyn-ysgrifennydd Cymru, Arglwydd Crucywel wedi marw

Arglwydd Crucywel
Image caption Bu'r Arglwydd Crucywel yn ysgrifennydd gwladol ar Gymru rhwng 1979 a 1987

Bu farw cyn-ysgrifennydd gwladol Cymru, yr Arglwydd Crucywel, Nicholas Edwards, yn 84 oed.

Fe oedd Aelod Seneddol Penfro rhwng 1970 a 1987, cyn ymddeol o Dŷ'r Cyffredin a chael ei urddo'n Arglwydd Crucywel o Bont Esgob.

Wedi ei eni yn Llundain yn 1934, cafodd ei addysg yn Ysgol Westminster a Phrifysgol Caergrawnt.

Aeth ymlaen i weithio ym myd yswiriant cyn dod yn aelod seneddol.

Penododd Margaret Thatcher ef yn ysgrifennydd gwladol dros Gymru pan ddaeth hi'n Brif Weinidog yn 1979, ac fe wasanaethodd yn ei chabinet tan iddo roi'r gorau i fod yn aelod seneddol yn 1987.

Yr Arglwydd Crucywel yw'r gwleidydd sydd wedi gwasanaethu hiraf yn swydd ysgrifennydd Cymru.

Image copyright Andrew Davis/Geograph
Image caption Roedd datblygu dociau Caerdydd o dan y chwyddwydr pan oedd yr Arglwydd Crucywel yn ysgrifennydd gwladol

Yn ystod ei gyfnod yn ysgrifennydd gwladol, roedd yn gyfrifol am sefydlu Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd er mwyn adfywio dociau'r ddinas, adeiladu morglawdd a chreu'r glannau.

Yn ddiweddarach, datgelodd archifau'r cabinet ei fod wedi bygwth ymddiswyddo o'r llywodraeth, wedi i Margaret Thatcher wrthod cefnogi'r cynllun i ddechrau.

Yn breifat, fe rybuddiodd y prif weinidog hefyd am doriadau "niweidiol" i grantiau datblygu rhanbarthol - arian oedd yn cael ei ddefnyddio'n eang er mwyn denu swyddi a buddsoddiad i Gymru.

Hybodd Mr Edwards gysylltiadau rhwng Cymru a Japan, gyda nifer o gwmniau'n agor ffatrioedd yma.

Image copyright PA
Image caption Nicholas Edwards yn ystod ei gyfnod yng nghabinet llywodraeth Margaret Thatcher

Fe hefyd oedd yr ysgrifennydd gwladol yn ystod streic y glowyr rhwng 1984 ac 1985, ond cafodd ei ymdrechion i ymuno â grŵp gweinidogol craidd eu gwrthod.

Wrth gofio'n ôl i'r cyfnod yn 2014, dywedodd fod dwy ran i'w bryderon: "Un oedd y byddai effeithiau'r streic yn niweidio fy ymdrechion egnïol i ddenu mewnfuddsoddiad.

"Y pryder arall oedd dyfodol y ddau waith dur mawr, yn enwedig Llanwern."

Hawlio'r clod am S4C?

Yn ystod ei gyfnod yn y llywodraeth, mae'n dweud iddo fod â rhan allweddol yn y cytundeb a arweiniodd at greu S4C, wedi i'r Ceidwadwyr fygwth newid eu meddwl ar addewid maniffesto i sefydlu sianel deledu Gymraeg.

Mynnodd mai ymweliad dan ei arweiniad ef gyda'r ysgrifennydd cartref ar y pryd - yn hytrach na bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio - arweiniodd at dro pedol y llywodraeth.

Mae papurau'r cabinet hefyd yn dangos iddo siarad yn erbyn toriadau i'r celfyddydau, ac iddo rybuddio fod y Ceidwadwyr mewn perygl o gael ei gweld fel plaid "Philistaidd".

Pwysleisiodd ei ddiddordeb yn y celfyddydau mewn llythyr preifat at y prif weinidog: "Cefais fy magu yn y V&A i bob pwrpas a dwi wedi gwybod am y byd celfyddydol ar hyd fy mywyd."

Image caption Nicholas Edwards yn cael ei urddo'n Arglwydd yn 1987

Ar ôl ymddeol o wleidyddiaeth, dychwelodd i yrfa fusnes, gan eistedd ar fwrdd HTV cyn dod yn gadeirydd arno'n ddiweddarach.

Fe hefyd oedd cadeirydd cynta'r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol, a ddaeth yn ddiweddarach yn Asiantaeth yr Amgylchedd.

Roedd yn flaenllaw yn yr ymgyrch i sicrhau cartref parhaol i Opera Genedlaethol Cymru yn ystod y 1990au.

Yn fwy diweddar, bu yn y newyddion ym mis Gorffennaf 2017, pan alwodd am well cydlynu wrth gynllunio i ailddatblygu Bae Caerdydd, mewn ffrae dros godi fflatiau ar ran o'r tir.

Image copyright EPA
Image caption Yr Arglwydd Crucywel yn siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi

Dywedodd Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick: "Roedd Nicholas Edwards yn ymwybodol iawn nad oedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif yng Nghymru a cheisiodd ddilyn polisi llai Thatcheraidd.

"Roedd yn ffafrio polisi economaidd ymyraethol a denodd nifer o gyflogwyr mawr fel cwmni electronig Sony.

"Peidiwch ag anghofio mai fe oedd y grym gwleidyddol y tu ôl i forglawdd Bae Caerdydd - prosiect sydd wedi trawsnewid Caerdydd fel prifddinas, a mater yr oedd e'n barod i ymddiswyddo o lywodraeth Margaret Thatcher drosto, am ei bod hi wedi bod yn gyndyn i gefnogi'r cynllun ar y dechrau."