Dean Keates yn gadael fel rheolwr Wrecsam

Dean Keates Image copyright Rex Features
Image caption Fe wnaeth Dean Keates ennill 25 o'i 70 gêm fel rheolwr Wrecsam

Mae Dean Keates wedi gadael ei rôl fel rheolwr Wrecsam i gymryd swydd gyda chlwb Walsall yn Adran Un.

Roedd y cyn-gapten wedi bod yn rheolwr y Dreigiau am 15 mis wedi iddo olynu Gary Mills ym mis Hydref 2016.

Ei gêm olaf wrth y llyw oedd y fuddugoliaeth yn y gêm dderbi yn erbyn Caer ddydd Sul.

Mae Wrecsam yn bedwerydd yn y Gynghrair Genedlaethol ar hyn o bryd, o fewn wyth pwynt i Macclesfield ar y brig gyda naw gem yn weddill.

Yr is-reolwr Andy Davies a hyfforddwr y tîm cyntaf, Carl Darlington fydd yn cymryd rheolaeth ar y Cae Ras dros dro, gan ddechrau oddi cartref yn Woking ddydd Sadwrn.

Bydd Keates, 39, yn olynu Jon Whitney fel rheolwr Walsall, wedi iddo gael ei ddiswyddo ar ôl dwy flynedd wrth y llyw.

Straeon perthnasol