Northampton yn disgyblu North am fethu sesiwn ymarfer

George North Image copyright Getty Images
Image caption Mae George North wedi chwarae dros Northampton ers bron i bum mlynedd

Mae asgellwr tîm rygbi Cymru, George North, wedi cael ei ddisgyblu gan ei glwb, Northampton Saints, am fethu sesiwn ymarfer fis diwethaf.

Yn dilyn y gêm yn erbyn Sale ar 3 Mawrth roedd hyfforddwr y clwb, Alan Gaffney, wedi awgrymu nad oedd North eisiau cael ei ddewis i chwarae, gan ddweud ei fod wedi "dewis tîm oedd eisiau bod ar y cae'r diwrnod hwnnw".

Bydd y chwaraewr 25 oed yn gadael Northampton ddiwedd y tymor ac yn dychwelyd i Gymru i chwarae.

Roedd ar gael i chwarae i Northampton pan nad oedd tîm Cymru yn hyfforddi yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Brynhawn Mawrth, dywedodd datganiad ar wefan y clwb: "Yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolwyr o'r clwb ddydd Llun, mae George North wedi derbyn cyfrifoldeb am fethu a mynychu sesiwn hyfforddi cyn eu gêm yn erbyn Sale Sharks yng Nghynghrair Aviva yn gynharach y mis hwn, ac mae wedi cael ei ddisgyblu yn fewnol."

Fe gadarnhaodd y clwb y bydd bellach yn rhydd i gael ei ddewis ar gyfer y pum gêm sy'n weddill y tymor hwn, gan ddechrau'r gyda'r gêm yn erbyn Newcastle Falcons y penwythnos hwn.

Cyfarfodydd adeiladol

Dywedodd Prif Weithredwr Northampton Saints, Mark Darbon: "Mae George, Alan Gaffney, Alan Dickens a finnau wedi cael nifer o gyfarfodydd adeiladol ers iddo ddychwelyd i'r clwb ddydd Llun.

"Mae George yn derbyn y camau disgyblu sydd wedi eu cymryd.

"Mae ganddo gariad mawr tuag at y clwb a'r cefnogwyr, ac mae'n ymroi ei hun yn llwyr i gynorthwyo'r clwb i orffen y tymor yn y safle gore posib yng Nghynghrair Aviva."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol