Rory Francis
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pryder Coed Cadw am bolisi amddiffyn 'gwannach'

21 Mawrth 2018 Diweddarwyd 07:18 GMT

Mae Coed Cadw yn pryderu am y ffordd mae polisi cynllunio newydd Llywodraeth Cymru wedi ei eirio.

Yn ôl Rory Francis o'r elusen mae'r brawddegau sydd fod i ddiogelu coetiroedd hynafol "yn wannach o lawer" a hynny'n rhoi "cyfle i ddatblygwyr" i'w dinistrio.

Ond mae'r llywodraeth yn mynnu bod eu polisi, sydd yng nghanol proses ymgynghori, yn "cydnabod pwysigrwydd coetir hynafol a rhannol naturiol".