Gwrthdrawiad beic cwad: Cyhoeddi enw dyn fu farw

B4413 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4413 rhwng Llanbedrog a Mynytho

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad beic cwad yng Ngwynedd dros y penwythnos.

Roedd Harri Wyn Thomas yn 47 ac o ardal Llanbedrog.

Bu farw wedi digwyddiad ar y B4413 rhwng Llanbedrog a Mynytho. Y beic cwad oedd yr unig gerbyd oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Wrth roi teyrnged, dywedodd teulu Mr Thomas bod ei farwolaeth yn "sioc enfawr" i'w holl deulu a ffrindiau.

"Roedd Harri yn weithiwr caled a ffermio oedd ei fywyd. Roedd wrth ei fodd gweithio ar fferm y teulu," meddai'r teulu.

"Roedd yn boblogaidd gyda'i holl deulu a ffrindiau a bydd colled fawr ar ei ôl."

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad.

Straeon perthnasol