ACau o blaid mesur 'gwarchod' pwerau o Frwsel

Baneri'r UE a Chymru
Image caption Cafodd y Mesur Parhâd wedi ei gyflwyno yn dilyn ffrae gyda Llywodraeth y DU

Mae'r Cynulliad wedi pleidleisio o blaid mesur brys fydd yn "gwarchod" pwerau'r Cynulliad yn dilyn Brexit.

Cafodd y Mesur Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) - neu'r Mesur Parhad - ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru'n dilyn ffrae gyda Llywodraeth y DU dros ei Mesur Ymadael.

Yn y Senedd ddydd Mercher, cafodd y mesur ei basio gyda 39 o blaid, 13 yn erbyn ac un yn ymatal.

Yn ôl cynlluniau Llywodraeth y DU, byddai rhai pwerau mewn meysydd datganoledig fel amaethyddiaeth, sydd ar hyn o bryd yn cael eu gweithredu ym Mrwsel, yn llifo yn ôl i San Steffan yn hytrach na Chaerdydd, Caeredin a Belfast.

Mae gweinidogion yn Whitehall yn dadlau bod angen cadw rhai pwerau yn Llundain i roi cyfle i ddatblygu fframweithiau ar gyfer Prydain-gyfan, ac y bydd y Mesur Ymadael yn "cryfhau" datganoli.

Cafodd un gwelliant i'r mesur ei basio hefyd - gwelliant fyddai'n caniatau i'r Ddeddf newydd gael ei dileu os fydd llywodraethau Cymru a'r DU yn cytuno ar Fesur Ymadael yr UE yn San Steffan.

Ond mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o geisio "cipio grym".

Bydd y Mesur Parhad, ddechreuodd ar ei daith ddeddfwriaethol ond bythefnos yn ôl, yn dod â'r holl bwerau datganoledig sy'n cael eu gweithredu ar lefel yr UE ar hyn o bryd yn syth i'r Cynulliad.

Image caption Carwyn Jones: Mesur ymadael Llywodraeth San Steffan yn "annerbyniol"

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Mae Aelodau'r Cynulliad wedi pleidleisio'n ddiamwys i gefnogi ein Bil i ddiogelu datganoli a sicrhau bod y pwerau sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd yn parhau yng Nghymru.

"Byddai'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn caniatáu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd rheolaeth dros gyfreithiau a meysydd polisi sydd wedi'u datganoli. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac mae'n rhaid ei newid.

"Rydyn ni'n parhau i ffafrio deddfwriaeth foddhaol i'r DU gyfan, gan ddiwygio'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei barchu. Fodd bynnag, cyflwynwyd Bil Parhad gan fod Llywodraeth y DU wedi bod mor araf ac amharod i gydnabod ein pryderon rhesymol.

"Nid yw'n rhy hwyr i ddod i gytundeb - ond mae'n rhaid i ni weld cynnydd pellach ar frys cyn inni allu cydsynio i'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae angen gwneud y newidiadau hyn yn gyflym gan fod yr amserlen Seneddol yn ein herbyn."

'Diangen a di-fudd'

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r Mesur Parhad os bydd yn dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ynghylch Mesur Ymadael â'r UE.

Os fydd hynny'n digwydd, bydd gweinidogion Cymru yn argymell i'r Cynulliad roi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil i Ymadael â'r UE a bydd y Bil Parhad ei ddiddymu.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies bod y Mesur Parhad yn "wastraff amser" ac y dylai'r llywodraeth a'r Cynulliad dreulio'u hamser yn ymdrin â materion "sydd o bwys" i bobl Cymru.

Ychwanegodd David Melding, y Ceidwadwr sy'n gyn-Ddirprwy Lywydd y Cynulliad: "Mae'r Mesur Parhad yn ddiangen a di-fudd ac mae peryg iddo danseilio'r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU.

"Roedd yn barodi o'r cychwyn cyntaf, gydag ACau'n methu craffu ar ei daith drwy'r Cynulliad yn y dull iawn.

"Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnig rhesymol a sylweddol er mwyn creu ymadawiad trefnus a llyfn o'r UE i'r DU gyfan.

"Dwi'n dal yn obeithiol y bydd cytundeb rhwng y sefydliadau datganoledig a Llywodraeth y DU fel y gallwn roi'r mesur 'ffug' yma y tu ôl i ni."

Pynciau Cysylltiedig