Y Cymro i'w weld ar y silffoedd eto
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Papur newydd Y Cymro ar werth yn y siopau eto

23 Mawrth 2018 Diweddarwyd 07:06 GMT

Naw mis ers y rhifyn diwethaf mae papur newydd Y Cymro ar gael i'w brynu yn y siopau eto o ddydd Gwener ymlaen.

Cyn iddo ddod i ben ym mis Mehefin y llynedd, roedd Y Cymro yn cael ei gyhoeddi bob wythnos ond bellach bob mis bydd yn ymddangos.

Mae dros 3,000 o gopïau wedi'u hargraffu a £1 fydd cost prynu'r papur a chefnogi'r fenter newydd.

Gruffydd Meredith, cyd-olygydd, sy'n sôn am y gobeithion.