Dyn yn wynebu carchar wedi ymosodiad difrifol yn Rhuthun

Stryd Clwyd, Rhuthun Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Clwyd, Rhuthun, am 01:45 17 Chwefror

Mae cyhuddiad o geisio llofruddio wedi ei ollwng yn erbyn dyn 21 oed o Ruthun ond mae'n wynebu cyfnod o garchar ar ôl pledio'n euog i ymosodiad difrifol.

Ar ôl yr ymosodiad gan Connor Hooley ar Stryd Clwyd cafodd Christopher Lloyd ei adael mewn cyflwr difrifol, ac roedd pryder ar y pryd a fyddai'n byw.

Ddydd Gwener penderfynodd yr erlyniad ollwng y cyhuddiad o geisio llofruddio ar ôl i Hooley bleidio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol ar 17 Chwefror eleni.

Fe wnaeth o hefyd bleidio'n euog i gyhuddiad o ymosod ar ddyn arall, Sion Jones yn y dref.

Yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug, dywedodd y Barnwr Niclas Parry y byddai cyhuddiad arall o achosi niwed corfforol yn aros ar ffeil Hooley.

Bydd yn cael ei dedfrydu ar 17 Ebrill.

"Fe fydd y llys yn cydnabod eich bod wedi pledio'n euog yn gynnar yn yr achos a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ddedfryd," meddai'r Barnwr Parry.

"Ond wedi dweud hynny, fe fydd y ddedfryd o garchar yn anorfod yn un hir."

Ar adeg yr ymosodiad dywedodd yr heddlu fod Mr Lloyd mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Glan Clwyd, ac fod ei deulu'n cael cefnogaeth swyddogion arbenigol yr heddlu.

Pynciau Cysylltiedig