Parkes yn arwyddo cytundeb newydd gyda'r Scarlets

parkes Image copyright Getty Images

Mae canolwr Cymru Hadleigh Parkes wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r Scarlets.

Fe ymunodd Parkes, sy'n 30 oed, â'r rhanbarth ym mis Rhagfyr 2014, a mae o wedi chwarae mewn 93 o gemau, gan sgorio 12 cais.

Tydi'r Scarlets heb ddatgelu beth yw hyd y cytundeb newydd.

Er yn wreiddiol o Seland Newydd, mae o'n gymwys i chwarae dros Gymru ers mis Rhagfyr 2017, ac mae o wedi ennill chwech o gapiau, gan sgorio tri chais.

Mae Parkes 'nôl yng ngharfan Y Scarlets ar gyfer y gêm yn rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn La Rochelle nos Wener - yn ogystal â Rob Evans, Ken Owens, Gareth Davies, Leigh Halfpenny a John Barclay yn dilyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.