Alex Cuthbert yn arwyddo gyda Chaerwysg

Cuthbert Image copyright Huw Evans picture agency

Mae asgellwr Cymru, Alex Cuthbert wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Chaerwysg ar gyfer y tymor nesaf.

Bydd Cuthbert, sydd wedi chwarae 47 o weithiau i Gymru, yn gadael y Gleision wedi saith mlynedd gyda'r rhanbarth.

Ni fydd Cuthbert yn gymwys i chwarae i Gymru ar ôl symud oherwydd rheol sy'n golygu mai dim ond chwaraewyr a dros 60 o gapiau fydd yn cael eu hystyried os ydyn nhw'n chwarae y tu allan i Gymru.

Dywedodd Cuthbert, sy'n 27: "Dwi wedi chwarae fy holl rygbi yng Nghymru ac wedi mwynhau cyfnodau gwych dros y blynyddoedd, ond dwi'n teimlo fy mod wedi cyrraedd cyfnod yn fy ngyrfa pan mae angen trio rhywbeth gwahanol."

Pynciau Cysylltiedig