Brexit: 'Gobaith am gytundeb am ddiogelwch'

europol

Mae pennaeth corff plismona'r Undeb Ewropeaidd yn "eithaf cadarnhaol" y bydd y DU a'r UE yn cyrraedd cytundeb newydd ar ddiogelwch ar ôl Brexit.

Ond fe ddywedodd Rob Wainwright, sy'n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, "gyda'r cloc yn tician mae dal gennym lawer i'w wneud".

Yn y cyfamser, mae Comisiynydd Heddlu De Cymru Alun Michael wedi dweud fod Brexit yn peri "bygythiadau difrifol" i allu ei staff i ymdrin â throsedd.

Mae Theresa May wedi galw am bartneriaeth "ddwfn ac arbennig" newydd rhwng y DU a'r Undeb ar ddiogelwch ar ôl Brexit.

Wrth siarad yng Nghynhadledd Diogelwch Munich ym mis Chwefror, fe ddywedodd y prif weinidog y dylai'r trefniant newydd ddechrau yn 2019.

'Elwa o'r cysylltiad'

Mae trafodwyr yr Undeb wedi derbyn canllawiau i sicrhau "cydweithrediad cryf rhwng yr UE a'r DU ym meysydd polisi tramor, diogelwch ac amddiffyn" fel rhan o'r trafodaethau Brexit ynghylch y setliad newydd.

Cafodd Europol ei sefydlu ym 1999 gan gyflogi mwy na 1,000 o bobl ar gost o tua £100 miliwn y flwyddyn - ni fydd y DU yn aelod bellach ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ôl ymuno fel pennaeth yr asiantaeth nol yn 2009, mae Rob Wainwright yn sefyll lawr o'r "swydd orau yn Ewrop" ym mis Ebrill.

Wedi'i eni a'i fagu ym mhentref Pontyberem yng Nghwm Gwendraeth, fe ddywedodd fod ei sefydliad "yn elwa o ymgysylltiad rhagweithiol y DU fel rhan o Europol".

Image caption Rob Wainwright yn cael ei holi gan James Williams

Ychwanegodd: "Yn naturiol fel cyfarwyddwr Europol, ac rwy'n siŵr y bydd y person sy'n cymryd fy lle i a ddim yn dod o Brydain...rwy'n siŵr y bydd hi'n dweud yr un peth, bod e'n werth chweil cadw ein haelodau yn rhan o'r clwb, ond yn enwedig un blaenllaw sy'n cyfrannu cymaint i Europol.

"Mae'r ffordd yr ydym ni'n cadw'r berthynas yna allan o'n rheolaeth ni, ac mae'n eithaf cywir bod hynny'n rhan o drafodaethau gwleidyddol. Ond wrth gwrs, ry'n ni eisiau i aelodau gorau'r clwb barhau i gydweithio'n agos iawn."

Dywedodd Mr Wainwright, a oedd yn asiant ar gyfer MI5 cyn symud i Europol, fod natur bygythiadau diogelwch modern yn golygu ei bod yn "bwysig ein bod yn cael y fargen cydweithredu trawsffiniol orau", a fydd yn "wahanol i'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd ond mae'n rhaid iddo fod yn bartneriaeth agos."

'Angen hyblygrwydd'

Mae Theresa May wedi rhybuddio na ddylai "cyfyngiadau sefydliadol anhyblyg neu ideoleg ddofn" beryglu diogelwch dinasyddion y DU.

Ond dywedodd Mr Wainwright fod yna bwrpas i'r llyfr rheolau "er mwyn gwarantu cysondeb cyfreithiol, er enghraifft. "

"Wedi dweud hynny, mae angen hyblygrwydd o hyd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wella'r ffordd yr ydym yn rheoli'r bygythiad deinamig iawn yn Ewrop.

Mae mentrau diogelwch Ewropeaidd allweddol yn cynnwys y System Gwybodaeth Schengen sy'n rhybuddio am ddrwgdybwyr mewn amser real, a'r Warant Atal Ewropeaidd (EAW) sy'n golygu bod gwledydd yn gallu estraddodi pobl sydd dan amheuaeth yn gyflym rhwng gwledydd sy'n gweithredu o fewn y cynllun.

Rhwng 2010 a 2016, gwnaeth heddluoedd Cymru ildio 151 o bobl a ddrwgdybir i aelodau'r UE tra bod 25 o bobl dan amheuaeth wedi eu harestio a'u hanfon yn y cyfeiriad arall.

Gwarant Atal Ewropeaidd yng Nghymru

Drwgdybwyr a anfonwyd i Gymru (2010 - 2016)

  • Heddlu Dyfed-Powys: 0
  • Heddlu Gwent: 5
  • Heddlu Gogledd Cymru: 4
  • Heddlu De Cymru: 16
  • CYFANSWM: 25

Drwgdybwyr a anfonwyd o Gymru (2010-2016)

  • Heddlu Dyfed-Powys: 35
  • Heddlu Gwent: 21
  • Heddlu Gogledd Cymru: 58
  • Heddlu De Cymru: 37
  • CYFANSWM: 151

FFYNHONNELL: Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Mae'r prif weinidog wedi dweud y byddai'n niweidio'r DU a'r UE pe bai Prydain y tu allan i'r EAW "a byddai'n golygu bod ein holl ddinasyddion mewn wy o beryg."

Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddau Heddlu De Cymru, ei fod yn credu y "bydd yna ewyllys i gynnal yr EAW" yn y DU wedi Brexit.

Ond fe ddywedodd y gwleidydd Llafur a wnaeth gefnogi aros yn yr Undeb yn ystod y refferendwm: "Rwy'n credu y bydd ein gwaith yn fwy anodd oherwydd yn y dyfodol y byddwn yn trafod gydag Ewrop yn ogystal â thrafod yn uniongyrchol gyda gwledydd yr Undeb ar gyfathrebu, rhannu data, rhannu gwybodaeth, pethau fel hynny a ni fyddwn ni yn yr un ystafell.

"Y peth pwysig yw bod angen inni gynnal y pethau ry'n ni wedi'u hadeiladu dros y blynyddoedd cyn belled ag y bo modd: rhannu gwybodaeth, rhannu data, yr EAW, cyfiawnder safon y gyfraith ar draws Ewrop ac os ydym ni y tu allan i fecanweithiau'r dyfodol, fe fydd hynny'n ddrwg i gyfiawnder ym Mhrydain," ychwanegodd.

Troseddau seiber

Yn Europol, mae'r DU yn arwain timau ar faterion fel masnachu dynol a throseddau seiber.

"Mae De Cymru yn ychydig o ganolbwynt ar draws y DU gyfan ar gyfer seiber-ddiogelwch," meddai John Davies, cyd-sylfaenydd Clwstwr Diogelwch Seiber De Cymru.

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch effaith bosib Brexit ar y diwydiant, fe ddywedodd: "Rwy'n credu bod bygythiad seiber yn mynd yn groes i wleidyddiaeth.

"Nid oes unrhyw ffiniau ar gyfer bygythiadau seiber. Gallwch gael haciwr yn eistedd wrth ddesg neu laptop ym Mwlgaria sy'n gwneud hacio cyfrifiaduron ym Mlaengarw.

"Bydd angen codi uwchben gwleidyddiaeth er mwyn sicrhau ein bod ni'n parhau i gydweithio.

"Mae angen i ni yn y DU siarad â Europol, mae angen i ni fod yn siarad â'r FBI, mae angen i ni siarad ag unedau troseddau gwledydd unigol er mwyn sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd."

Ar seiber-ddiogelwch, fe ddywedodd Rob Wainwright: "Mae Cymru'n un o'r gwledydd hynny lle nad oes angen i chi fesur popeth yn ôl maint.

"Mae Cymru'n chwarae rhan fel ymrwymiad cryf y DU mewn seiber-ddiogelwch ac ardaloedd eraill hefyd. Rydym yn falch iawn o gael y berthynas honno.

"Ac i mi fel rhywun sy'n dod o Gymru, mae'n dda gweld hynny. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn gobeithio y bydd yn parhau yn y dyfodol," ychwanegodd.

Pynciau Cysylltiedig