Heddlu arfog yn stopio trên tra'n chwilio am ddyn

Gorsaf Aberpennar Image copyright Geograph
Image caption Cafodd y trên ei stopio yng ngorsaf Aberpennar

Mae heddlu arfog wedi stopio trên yn Rhondda Cynon Taf wrth chwilio am ddyn y mae swyddogion eisiau ei ganfod.

Bu'n rhaid i deithwyr rhwng Pontypridd ag Aberdâr ddod oddi ar y trên yn Aberpennar toc wedi 19:00 nos Fercher.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn chwilio am ddyn oedd wedi'i weld yn ymddwyn yn amheus yn ardal Broadway ym Mhontypridd.

Ond doedd y person ddim arni, a dywedodd y llu eu bod yn parhau i chwilio amdano.

Pynciau Cysylltiedig