Beth oedd y Cymry'n ei wneud adeg y croeshoelio?

Mae nifer ohonom wedi dysgu am hanes y croeshoeliad ac wedi gweld y darluniau o'r cyfnod, ac efallai yn credu fod bywyd a gwisg yr un fath yma yng Nghymru ag yr oedd yn y dwyrain canol. Ond yw hynny'n gywir?

Dr Elin Jones sydd yn datgelu'r hyn rydyn ni'n ei wybod am fywyd yn yr ardal yma yn y flwyddyn sero Oed Crist.


Mae ail bennod Efengyl Luc yn dechrau gyda'r geiriau cyfarwydd 'Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru'r holl Ymerodraeth'.

Nid oedd Prydain yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeining yn nyddiau Awgwstus. Digwyddodd hynny yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Claudius, un o'i olynwyr, yn hanner cyntaf y ganrif gyntaf OC.

Ond roedd ewythr Awgwstus, Iŵl Cesar, wedi ymweld â Phrydain ganrif yn gynharach, ac mae ganddo ddisgrifiad o'r wlad yn ei lyfr am ei ymgyrchoedd yng Ngâl (y De Bello Gallico, un o hoff destunau cyrsiau Lladin am ganrifoedd).

Mae disgrifiad Cesar yn gyfyngiedig i'r de-ddwyrain, ac yn pwysleisio'r tebygrwydd rhwng trigolion Prydain a thrigolion Gâl (ardal yng ngorllewin Ewrop).

Doedd Cymru ddim yn bodoli

Ceir cyfeiriad at drigolion ardaloedd mwy pellennig, oedd yn gwisgo crwyn anifeiliaid, ac yn cadw stoc yn hytrach na thrin y tir.

Er doedd Cymru fel gwlad ar wahân ddim yn bodoli 2,000 o flynyddoedd yn ôl, fe allai'r cyfeiriad hwn ddisgrifio amaethyddiaeth Cymru hyd heddiw (ac mae gwisgo cotiau lledr yn dal yn eithaf poblogaidd yma!)

Pobl 'stroppy'

Yn ôl Cesar, roedd pobl Prydain yn dal, yn olau eu pryd, ac yn hoff iawn o ymladd. Roedd gwallt hir gan ddynion a menywod, ond byddent yn eillio pob rhan o'u cyrff ar wahân i'w pennau a'u gwefusau uchaf. Byddent hefyd yn lliwio eu croen gyda sudd lliwur glas (woad), er mwyn codi dychryn ar eu gelynion.

Image caption Mae coryglau dal yn cael eu defnyddio ym mhentref Cenarth, Sir Gaerfyrddin

Mae hefyd yn disgrifio cychod sy'n swnio'n debyg iawn i goryglau, ac mae'n amlwg iddo edmygu cerbydau rhyfel y Prydeinwyr yn fawr iawn.

Roedd cerbydau tebyg yn beth newydd iddo, a cheir disgrifiad manwl iawn ganddo o'r dull o ymladd gyda'r cerbydau hyn, a sgìl y Prydeinwyr wrth eu trin.

Mi fydde fe'n dweud 'na, oni fydde fe?

Ond rhaid cofio bod Cesar yn ysgrifennu gyda'r bwriad o fawrhau ei fuddugoliaethau dros drigolion Gâl, ac felly'n debyg o bwysleisio natur ryfelgar brodorion Gâl a Phrydain.

Ar ben hynny, roedd y Rhufeiniaid (fel y Groegiaid o'u blaen) yn ddirmygus iawn o bob cenedl ar wahân i'w cenedl eu hunain. Barbariaid oeddynt i gyd, yn eu tyb nhw, yn gwneud rhyw synau aflafar tebyg i 'bar…bar…' yn hytrach na siarad ieithoedd parchus a dealladwy Groeg a Rhufain.

Mae tystiolaeth archaeolegol yn fwy gwrthrychol na sylwadau'r Cesar cyntaf, ond yn ategu ei sylwadau am y cysylltiadau agos rhwng Gâl a Phrydain.

Bryngaer Castell Henllys yn Sir Benfro: Ail gread bryngaer o'r cyfnod
Image caption Bryngaer Castell Henllys yn Sir Benfro: Ail-gread o fryngaer o'r cyfnod

Dwylo medrus

Mae cloddiadau ar safleoedd o'r cyfnod hwn yn profi bod crefftwyr medrus iawn ymhlith trigolion Prydain 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a'u bod yn gweithio ystod o fetelau, gan gynnwys haearn.

Roeddynt yn byw mewn trefi a phentrefi trefnus, yn masnachu dros y môr, ac yn cynhyrchu gwrthrychau hardd o aur, arian ac owmal.

Os byddwch yn ymweld ag amgueddfa dros y Pasg, a honno'n arddangos eitemau o'r Oes Haearn (yn fras y cyfnod hwn), cewch weld peth o waith dwylo oedd yn fyw adeg yr Iesu ac Awgwstus Cesar.

Yn ddiweddar mae rhai haneswyr wedi honni bod y Rhufeiniaid wedi meddiannu diwylliant, gwybodaeth a thechnoleg y gwledydd a oresgynnwyd ganddynt, o wlad Etrwria ymlaen, ond yn anwybyddu a bychanu'r trigolion.

Mae llyfr Graham Robb, The Ancient Paths, yn dadlau bod heolydd enwog yr Ymerodraeth Rufeinig wedi eu hadeiladu ar seiliau a osodwyd gan y Celtiaid - trigolion Gâl a Phrydain adeg y Pasg cyntaf.

Felly os ewch am dro dros y Pasg, a cherdded rhan o Sarn Elen, neu un o'r hen ffyrdd 'Rhufeinig', byddwch efallai yn cerdded yn ôl traed fu'n dilyn yr un llwybr adeg y Croeshoeliad.

Image caption Roedd crefftwyr metel medrus yn byw ym Mhrydain 2,000 o flynyddoedd yn ôl

Pynciau Cysylltiedig