Rhybudd melyn am law dros Gymru

Rhybudd melyn Image copyright Swyddfa Dywydd

Mae'r rhybudd melyn am eira ddydd Llun bellach wedi'i newid gan y Swyddfa Dywydd i rybudd melyn am law trwm dros rannau helaeth o Gymru.

Roedd disgwyl i eira ddisgyn ddydd Llun y Pasg, ond bellach mae rhybudd am law mewn grym o 17:00 brynhawn Sul, 1 Ebrill tan 16:00 brynhawn Llun, 2 Ebrill.

Mae'r rhybudd yn dweud fod posibilrwydd o lifogydd a allai effeithio ar drafnidiaeth a busnesau.

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio gyrwyr i gymryd pwyll ar y ffyrdd wrth i'r tywydd effeithio ar amodau gyrru.

Pynciau Cysylltiedig