Trethi cyntaf Cymru ers 800 mlynedd yn dod i rym

Dyfed Alsop
Image caption Dyfed Alsop: "Maen nhw ar gyfer Cymru, wedi'u creu yng Nghymru ac yn aros yma"

Mae'r trethi cyntaf i Gymru yn unig ers 800 mlynedd wedi dod i rym.

Mae dwy dreth newydd wedi eu cyflwyno - y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Yn ôl pennaeth y corff newydd fydd yn casglu'r trethi, bydd yr arian yn "gwneud cyfraniad sylweddol iawn i wasanaethau cyhoeddus Cymru".

Amcangyfrif gweinidogion yw y bydd y trethi yn codi dros £1bn dros y pedair blynedd nesaf.

Cafodd grym dros drethi stamp a thirlenwi eu trosglwyddo i San Steffan i Fae Caerdydd o dan Ddeddf Cymru 2014, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddeddfu am y trethi i gymryd eu lle.

Bryd hynny hefyd y cafodd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ei sefydlu er mwyn rheoli a chasglu'r trethi ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd prif weithredwr ACC, Dyfed Alsop fod heddiw'n ddiwrnod hanesyddol.

"Dyma rhywbeth sy'n aros yng Nghymru," meddai. "Maen nhw ar gyfer Cymru, wedi'u creu yng Nghymru ac yn aros yma."

Image copyright Getty Images
Image caption Mae gweinidogion Cymru nawr yn gyfrifol am godi arian yn ogystal â'i wario

Aeth Mr Alsop ymlaen i ddweud: "Y gwahaniaeth mawr i bobl yw y bydd y trethi yma'n cael eu casglu gan ACC, a'u bod yn mynd i gael eu gwario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

"Amcangyfrif Llywodraeth Cymru yw y bydd y trethi yma'n codi rhywbeth tebyg i £1bn dros y pedair blynedd cyntaf, felly mae hynny'n gwneud cyfraniad sylweddol iawn i wasanaethau cyhoeddus Cymru.

"Ry'n ni'n ceisio gweithio'n agos gyda'r cyhoedd, gweithio'n agos gyda'r bobl sydd angen talu'r trethi yna a sicrhau ein bod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl a hefyd ein bod mor gefnogol â phosibl.

"Bydd hynny'n ennyn ymddiriedaeth, ac yn creu ymdeimlad fod pethau'n cael eu gwneud mewn ffordd deg."

Image caption Alun Cairns

Mae rhai pwerau eraill i'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn dod i rym ddydd Sul.

Mae Deddf Cymru hefyd yn datganoli cyfrifoldebau ychwanegol am drafnidiaeth, ynni a threfniadau etholiadol.

Mae hefyd yn diffinio beth yn union sydd o dan reolaeth San Steffan, gyda chyfrifoldeb am bopeth arall yn gorwedd ar y Cynulliad.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "O benderfyniadau am borthladdoedd, rheoli tacsis a bysus a chyflogau athrawon i benderfyniadau am y drefn etholiadol i'r Cynulliad a llywodraeth leol, bydd y penderfyniadau yma nawr yn cael eu gwneud yn y Senedd.

"I mi mae hynny'n ddatganoli cyfrifol; dyna yw datganoli go iawn ac rwy'n credu bod hynny'n hanfodol i Gymru ac i'r DU."

Galwodd Mr Cairns ar Lywodraeth Lafur Cymru i fod "yn ddyfeisgar gyda'r cyfleoedd y mae'r pwerau newydd yma yn darparu ac i gyflawni'r gwelliannau mewn gwasanaethau datganoledig y mae pobl Cymru'n eu haeddu".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol