Angen ystyried streic wrth asesu myfyrwyr
- Published
Fe ddylai effaith streiciau darlithwyr gael eu hystyried wrth asesu perfformiad myfyrwyr, yn ôl undeb myfyrwyr NUS Cymru.
Roedd darlithwyr mewn pedair o brifysgolion Cymru ymhlith y miloedd ar draws y DU oedd yn rhan o weithredu diwydiannol am 14 diwrnod mewn anghydfod dros bensiynau, ac mae mwy o streiciau wedi'u cynllunio.
Mae rhai myfyrwyr wedi ymuno gydag achos cyfreithiol ar draws y DU am iawndâl, tra bod criw o fyfyrwyr ôl-radd ym Mhrifysgol Caerdydd yn bwriadu gwrthod talu ffioedd oherwydd addysg sydd wedi'i golli.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymddiheuro, ond yn dweud ei bod wedi "gweithio'n galed" i liniaru unrhyw amharu.
Cafodd prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Phrifysgol Cymru eu heffeithio gan y gweithredu a ddechreuodd ym mis Ionawr.
Dywedodd llywydd NUS Cymru, Ellen Jones: "Rwy'n credu y dylai effaith y streiciau gael ei ystyried wrth asesu myfyrwyr, ac wrth iddyn nhw orfod sefyll arholiadau mewn amgylchiadau anodd.
"Ry'n ni'n gwybod bod arholiadau ac asesiadau yn gyfnod o straen, ond ry'n ni hefyd yn gwybod fod cael darlithwyr sy'n cael eu talu'n iawn yn hanfodol er mwyn cael profiad prifysgol da."
Gwrthod talu?
Fe wnaeth Harry Thompson o Aberhonddu golli 36 awr o ddarlithoedd yn ei gwrs Meistr blwyddyn mewn Cyfathrebu Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'n un o mwy nag 80 o fyfyrwyr ôl-radd yno sy'n bwriadu peidio talu ffioedd.
Yn wahanol i fyfyrwyr is-radd, mae peth o gyllid myfyrwyr ôl-radd yn cael ei dalu i'r myfyrwyr yn gyntaf cyn iddyn nhw basio'r arian ymlaen at y sefydliad priodol.
Dywedodd Mr Thompson: "Dydyn ni heb gael yr addysg y mae'r ffioedd yn talu amdano, felly ry'n ni'n bwriadu dal £2,000 yn ôl o'r taliad nesaf tan y bydd y brifysgol yn gwneud consesiwn ac yn aildrefnu ein haddysg."
Ychwanegodd fod y grŵp yn credu fod y darlithwyr wedi "cael eu gorfodi" i streicio gan y brifysgol, a'u bod yn gefnogol ohonynt.
Camau cyfreithiol?
Mae myfyrwyr o Gaerdydd ac Aberystwyth ymhlith cannoedd yn y DU sydd wedi ymuno a chamau cyfreithiol torfol yn erbyn y sefydliadau am dorri cytundeb.
Dywedodd cwmni cyfreithwyr Asserson eu bod angen i 5,000 o fyfyrwyr y DU i ymuno er mwyn i'r camau cyfreithiol fod yn hyfyw, ond maen nhw'n hyderus y bydd hynny'n digwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Ry'n ni'n cydnabod bod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd iawn ac yn heriol i rai myfyrwyr.
"Mae'n flin iawn gennym bod y sefyllfa yma wedi codi, ac ry'n ni wedi gweithio'n galed i roi dealltwriaeth dda i fyfyrwyr o'r camau lliniaru sydd wedi eu cymryd i ateb pryderon oherwydd y gweithredu diwydiannol."
Maen nhw'n mynnu fod sicrwydd wedi dod y bydd y byrddau arholi yn ystyried "amharu uniongyrchol" o streiciau ac na fyddai'n rhaid i fyfyrwyr eu hadrodd fel "amgylchiadau neilltuol".
Roedd y brifysgol hefyd yn dweud eu bod yn disgwyl i'r "holl ffioedd gael eu talu" ac y byddai methiant i wneud hynny yn arwain at dynnu myfyrwyr oddi ar eu cyrsiau.
Ychwanegodd llefarydd y byddai'n rhaid i unrhyw fyfyriwr sydd am hawlio iawndal ddangos nad oedd y brifysgol wedi cymryd "camau rhesymol" i roi'r cyfle iddyn nhw ddangos cyrhaeddiad yn eu cyrsiau.
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Ionawr 2018
- Published
- 22 Chwefror 2018