Bromley 1-1 Wrecsam

wrecsam

Bromley 1-1 Wrecsam

Daeth ergyd arall i obeithion Wrecsam o godi yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed y tymor nesaf wedi iddyn nhw ildio pwyntiau yn Bromley ddydd Gwener.

Wrecsam aeth ar y blaen gyda gôl gan James Jennings wedi chwe munud o'r ail hanner.

Roedd hynny ar ôl i Roger Johnson o Bromley weld cerdyn coch tua diwedd yr hanner cyntaf.

Ond yn ôl daeth Bromley ac fe gafon nhw gyfle gwych o'r smotyn yn dilyn trosedd.

Hanlan sgoriodd o'r smotyn i ddod â Bromley'n gyfartal.

Er i Wrecsam daro'r trawst a'r postyn wedi hynny, ni ddaeth y gôl ac mae Wrecsam yn bellach nag erioed o frig y tabl.

Maen nhw'n parhau yn drydydd yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr, ond bellach 10 pwynt y tu ôl i Macclesfield, a phedwar y tu ôl i Sutton United sydd â gêm wrth gefn.