Cwpan Her Ewrop: Caeredin 6-20 Gleision

Blaine Scully Image copyright PA

Mae'r Gleision wedi sicrhau gem gartref yn rownd gyn derfynol Cwpan Her Ewrop yn erbyn Pau o Ffrainc ar ôl ennill oddi cartref o 20-6 yn erbyn Caeredin ddydd Sadwrn.

Caeredin aeth ar y blaen gyda chic gosb gan Jaco van der Walt cyn ildio dau gais.

Ellis Jenkins sgoriodd cais gyntaf y gêm cyn i Blaine Scully groesi am yr ail yn dilyn camgymeriad gan Blair Kinghorn.

Llwyddodd Van der Walt i gicio'n gywir unwaith eto i ddod a'r sgôr yn 6-14.

Ciciodd Evans ddwy gic gosb i wneud y sgôr yn gyfforddus i'r Gleision cyn iddyn nhw golli Jenkins ar ôl iddo gael ei anfon i'r gell gosb.

Mae rhediad y gleision o beidio colli wedi ymestyn i chwe gêm wrth iddyn nhw edrych ymlaen at gêm gartref yn y rownd gyn derfynol ar benwythnos 20-22 Ebrill.

Pynciau Cysylltiedig