Parêd i ddathlu agor canolfan Tŷ Pawb yn Wrecsam
- Published
Roedd parêd i ddathlu agor canolfan gelfyddydau a diwylliant newydd ar safle hanesyddol Marchnad y Bobl yn Wrecsam ddydd Llun.
Mae canolfan Tŷ Pawb yn cynnwys galerïau, ardaloedd perfformio, siop a stondinau marchnad.
Cafodd y ganolfan, sydd wedi costio £4.5m i'w hadeiladu, ei hagor yn swyddogol yr wythnos diwethaf.
Mae dros 500 o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithdai ar hyd Sir Wrecsam cyn y digwyddiad.
image copyrightCyngor Wrecsam
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Mawrth 2018