Sheffield United 1-1 Caerdydd

Caerdydd Image copyright Matt West/BPI/Rex/Shutterstock
Image caption Rheolwr Caerdydd, Neil Warnock yn dathlu gôl Anthony Pilkington ym munudau ola'r gêm

Doedd yna ddim nawfed buddugoliaeth gynghrair o'r bron i glwb pêl-droed Caerdydd nos Lun, ond fe gawson nhw gêm gyfartal, diolch i gôl yn y munudau olaf yn erbyn Sheffield United yn Bramall Lane.

Sgoriodd Anthony Pilkington gôl hwyr i sicrhau pwynt i dîm Neil Warnock, a hynny ar ôl i Leon Clarke roi'r tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Mae'r canlyniad yn golygu fod 'na wyth pwynt o fwlch rhwng Caerdydd sydd yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth, a Fulham sy'n drydydd.

Saith gêm o'r tymor sy'n weddill, a bydd Fulham yn chwarae'n erbyn Leeds nos Fawrth.