Llywodraeth Cymru'n dosbarthu £4.2m i hybu'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Cymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £4.2m ar gael i Gymraeg wrth iddynt anelu at eu targed o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Hwn yw'r un cyfanswm â'r llynedd, ac felly bydd dim cynnydd i gyd-fynd â graddfa chwyddiant, gan olygu gostyngiad yn nhermau real.

Fel yn 2017, mae'r arian wedi'i ddyfarnu i 77 o sefydliadau.

Dywedodd Eluned Morgan, Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio "i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg".

"Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn ac er bod addysg yn allweddol i wireddu'r nod yma, mae defnyddio'r iaith bob dydd ym mhob agwedd ar fywyd yr un mor bwysig, " meddai.

"All y Gymraeg ddim â bodoli fel iaith y dosbarth yn unig.

"Mae'r sefydliadau sydd wedi'u hariannu gan y grantiau hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol."

Fe fydd y sefydliadau canlynol ymhlith y grwpiau a fydd yn elwa o'r gronfa:

  • Yr Eisteddfod Genedlaethol Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
  • Mentrau Iaith
  • Merched y Wawr
  • Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
  • Papurau Bro
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru