Aildanio'r diddordeb yn iaith Geltaidd 'goll' Lloegr

Arwydd Cumbria Image copyright Not Just Lakes
Image caption Mae'r enw 'Cumbria' yn dod o'r un tarddiad â 'Cymru'

Mae cyfrif newydd ar Twitter yn ceisio codi ymwybyddiaeth o iaith Geltaidd debyg i'r Gymraeg oedd yn cael ei siarad yng ngogledd Lloegr, ond sydd bron wedi mynd yn angof.

Wrth i bobl sôn am yr ieithoedd Celtaidd heddiw prin bod neb yn cyfeirio at Gymbrieg oedd yn cael ei siarad yn ardal Cumbria.

Ond mae cyfrif Cumbric Word of the Day yn ceisio adfywio'r diddordeb ynddi drwy nodi geiriau o'r iaith yn ddyddiol.

Mae olion o Gymbrieg yn dal i'w gweld mewn enwau llefydd ac ambell air tafodieithol yn Cumbria hyd heddiw.

Nina Jones, Americanes o New Jersey, sydd tu ôl i'r cyfrif Twitter gyda help ei gŵr Michael Jones, siaradwr Cymraeg o Ferthyr.

"Mae gen i ddiddordeb yn yr ieithoedd Celtaidd ers tro," meddai Nina.

"Ac roedd gen i ddiddordeb mawr yn y ffaith fod yna adfywiad wedi bod yn yr ieithoedd P-Geltaidd [Cymraeg, Llydaweg a Chernyweg], ond nid mewn Cymbrieg.

"Mae yna raniad rhwng gogledd a de Lloegr. Mae pobl y gogledd yn teimlo'n wahanol ac, fel mae'n troi allan, maen nhw'n wahanol.

"Roedd yna iaith hollol wahanol yn cael ei siarad yno a wnaeth hi ddim ond marw yn y 13eg ganrif. Ddim mor bell â hynny yn ôl, a siarad yn gymharol."

Image copyright Nina a Michael Jones
Image caption Mae Nina a Michael Jones yn byw yn Nulyn ar hyn o bryd: Michael yn gweithio fel cynllunydd meddalwedd a Nina newydd gwblhau doethuriaeth

"Mae'n braf bod yna ddiddordeb yng ngogledd Lloegr," meddai Nina am yr ymateb mae wedi ei gael oddi wrth Saeson i'r cyfrif.

"Mae'n creu cysylltiad rhwng y Celtiaid Brythonig, sy'n cynnwys gogledd Lloegr, â'u treftadaeth o adeg sydd ddim mor bell â hynny yn ôl."

Meddai Michael: "Y rheswm dros y cyfrif Twitter yma yw i sicrhau bod pobl yn Lloegr yn cael rhyw berthynas gyda'r ieithoedd Celtaidd yma yn ein hynysoedd Prydeinig."

Cydwladwyr yr Hen Ogledd

Mae'r enw Cumbria yn dod o'r un gair â 'Cymru' - sef 'kombroges', y gair Brythonaidd am gydwladwyr.

Roedd Brythoneg yn iaith gyffredin ar draws Cymru, Lloegr a rhannau o dde'r Alban pan adawodd y Rhufeiniaid wledydd Prydain.

Erbyn y 6ed ganrif roedd hi wedi datblygu'n ffurf gynnar o Gymraeg yng Nghymru a Chymbrieg yng ngogledd Lloegr a de'r Alban, sef ardal oedd yn cael ei galw'n Hen Ogledd.

Dyma lle sgrifenwyd y farddoniaeth 'Gymraeg' gynharaf sydd wedi ei chofnodi.

Fe fyddai siaradwyr yr ieithoedd yma wedi gallu deall ei gilydd o Gymru draw at Glasgow.

Mae Glen George wedi byw yn Cumbria am 40 mlynedd ac wedi cyhoeddi llyfr am hanes yr ardal - Golwg Newydd ar yr Hen Ogledd.

Ynddo mae'n cofnodi dros 200 o enwau 'Cymreig' yr ardal.

"Mae'n debyg bod Cymbrieg, yr iaith roedden nhw'n ei siarad yn yr ardal hyn, yn debyg iawn i Gymraeg," meddai Mr George sydd o Sir Benfro yn wreiddiol.

Image copyright Wikipedia
Image caption Map o'r Hen Ogledd o wefan Wikipedia

"Roedd y Saeson wedi cyrraedd yn y 5ed ganrif. Roedd teyrnasoedd Brythonaidd yr Hen Ogledd yn diflannu o un i un yn y dwyrain yn ystod y 7fed ganrif ond cadwodd y 'Cymry' eu gafael ar y tir yn y gorllewin hyd yr 11eg ganrif."

Hen enwau

"Mae yna le sy'n rhan o Barrow [in-Furness] o'r enw Leece - o'r gair 'llys'. Un arall yw Roose - o 'rhos'," eglura Glen George.

"Mae enw lle hyfryd i mewn i'r tir - Blawith. 'Blaidd Wydd' yw hwnna - coedwig ble roedd bleiddiaid.

"Erbyn y 14eg ganrif yn sicr, iaith yr ymylon oedd y Gymbrieg - iaith y bugeiliaid.

"Mae yna lawer yn cofio y ffordd roedden nhw'n cyfri defaid yn yr ardal. Yan, tan, tether oedd 'un, dau tri'. Pimp oedd 'pump', dick oedd 'deg', yan-a-dick, tyan-a-dick yw 'un-ar-ddeg' a 'deuddeg', bumfit yw 'pymtheg' a gigget yw 'ugain'.

"Wedyn wrth fynd i dwrio dipyn o'n i'n gweld bod geiriau i wneud gyda ffermio yn aml yn dod o'r Frythoneg, er enghraifft maen nhw'n sôn am glawdd ffin fel tarvin - 'terfyn'.

"Yr enw am y cytundeb i gadw'r clawdd ffin oedd y dalt - 'deall' neu 'dallt' yn Gymraeg.

"Y gair am fachgen ifanc roedden nhw'n ei gyflogi ar y fferm oedd croot - sydd fel 'crwt'.

"Fe fyddai hynny o fewn cof yn y ganrif diwethaf. Roedd fy nhad-yng-nghyfaith yn dod o'r ardal ac yn cofio'r cyfri.

"Yr enw am ffos i ddal carthffosiaeth oedd pant - mae mân bethau wedi aros ond mae'n dipyn o dasg i ddod o hyd iddyn nhw wrth i'r dafodiaith deneuo.

"Ychydig iawn sy'n sylweddoli bod dylanwad y Cymry wedi para mor hir."

Image copyright Geiriau Cymbrieg/Cymraeg
Image caption Rhai o eiriau cyfrif @CumbricWordOTD

Ymhlith enghreifftiau eraill mae Mr George wedi eu casglu mae'r enwau llefydd mae yn eu dehongli fel: Nannycatch - Nant y Calch; Devoke Waters, llyn bach â dyfroedd tywyll - Du Fach; Randy Pike ger llyn Windermere - o'r gair Rhandir a Blencogo - Blaen Cogau.

I Nina a Michael, eu gobaith gyda'r cyfrif Twitter yw codi ymwybyddiaeth.

"Mae cymaint o Gymry ifanc yn gadael Cymru nawr a fallai bod angen troedigaeth o ran siarad yr iaith y tu allan i ffiniau'r wlad - yn sicr mewn llefydd fel Llundain," meddai Michael.

"Os fedrwn ni godi ymwybyddiaeth o'r Frythoneg ar hyd yr ynys falle bydd mwy o uchelgais inni siarad Cymraeg yn Lloegr hefyd."

Mae Nina'n gobeithio bod dysgu mwy am Gymbrieg yn help i ddysgu mwy am yr iaith Frythoneg wreiddiol sy'n cysylltu Cymraeg, Cernyweg, Cymbrieg a Llydaweg ac o bosib, y cysylltiad cynharach fyth gyda Gwyddeleg, Gaeleg a Manaweg.

Gallwch lawrlwytho arweiniad Glen George i deithiau yn yr Hen Ogledd oddi ar wefan Gwasg Carreg Gwalch.

Image copyright Geograph/Christopher Ware
Image caption Mae canolfan ymwelwyr Rheged yn Penrith, Cumbria, wedi ei henwi ar ôl hen deyrnas Frythonig y brenin Urien a'i fab Owan ab Urien