Diffyg cyflenwad nwy LPG yng Nghymru yn 'argyfyngus'
- Cyhoeddwyd

Bydd dynes sydd wedi bod heb wres na dŵr cynnes ers sawl diwrnod yn parhau heb gyflenwad am wythnos arall, oherwydd trafferthion cyflenwadau nwy LPG.
Cwmni Calor sy'n darparu nwy i Mari Pritchard o Bontrhydybont ar Ynys Môn, ac mae'n dweud nad ydyn nhw wedi cael trafferthion o'r blaen.
Ond mae 3,300 o gwsmeriaid y cwmni sy'n defnyddio LPG yn dweud eu bod nhw yn cael problemau.
Mae Calor wedi ymddiheuro am y sefyllfa ac yn dweud eu bod yn gobeithio bod y broblem wedi ei datrys.
'Anghyfforddus ac anghyfleus'
Calor yw'r prif gyflenwr LPG ond mae cwmnïau eraill fel AvantiGas, Countrywide a Flogas hefyd yn dweud bod oedi.
Dywedodd Ms Pritchard nad oedd hi wedi cael rhybudd am y cyflenwad isel.
"Da ni wedi rhedeg allan yn gyfan gwbl ers dydd Gwener diwetha'... Da ni efo nhw ers 10 mlynedd ac erioed wedi cael problem," meddai wrth raglen Taro'r Post.
Dywedodd mai dim ond "llythyr eithaf niwlog ynglŷn â'r sefyllfa yn gyffredinol yn y wlad" y maen nhw wedi ei dderbyn.
"Petai ni yn gwybod fysa ni wedi troi pethau i ffwrdd, peidio defnyddio'r nwy a chadw golwg llawer agosach.
"I mi ddyla bod ryw fath o larwm wedi codi; 'Oh gosh da ni ddim yn mynd i allu cyrraedd rhein fysa yn well i ni ddeud wrthyn nhw'."
Ychwanegodd: "'Da ni yn rhedeg ar dri gwresogydd bach trydan ac mae hwnna mynd i gostio, a dydy LPG ddim yn rhad o bell ffordd.
"Mae'n dechrau mynd yn anghyfforddus ac anghyfleus."
'Annisgwyl'
Un arall sydd wedi ei heffeithio yw Siw Jones o Felin Fach yng Ngheredigion. Mae hi'n gwsmer Flogas a tua 1% o nwy sydd ganddynt ar ôl.
"Mae'n annisgwyl o ran 'da ni ddim wedi cael gohebiaeth bersonol wrth y cwmni i rybuddio ni am y problemau," meddai.
"Mae 'na ddatganiad ar eu gwefan nhw ers canol mis Mawrth yn dweud bod 'na oedi a phroblemau. Ond wrth gwrs o'n i byth yn dychmygu bydden ni yn y sefyllfa hyn.
"Ni yn llwyr ddibynnol bron iawn ar nwy o ran cynhesu'r tŷ, o ran cynhesu dŵr, o ran coginio, o ran tanau felly mae'n reit argyfyngus a dweud y gwir."
Problem eang
Mae Flogas yn dweud bod problem ar draws y diwydiant tra bod Calor wedi ymddiheuro am y sefyllfa, gan ddweud eu bod yn gobeithio bod y broblem wedi ei datrys.
Dywedodd llefarydd Calor hefyd eu bod yn canolbwyntio ar gysylltu â chwsmeriaid sydd wedi dioddef ac yn anfon cerbydau allan drwy'r wythnos er mwyn darparu cyflenwadau.
Mae Taro'r Post wedi cysylltu gyda'r cwmnïau am ymateb pellach i gwynion Siw Jones a Mari Pritchard.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2018