Tranc corff Llywodraethwyr Cymru yn 'warthus'
- Cyhoeddwyd

Mae pryder y bydd ysgolion yn dioddef o ganlyniad i benderfyniad "hollol warthus" i dorri cyllid corff sy'n rhoi cefnogaeth i lywodraethwyr.
Daeth corff Llywodraethwyr Cymru i ben ddiwedd mis Mawrth ar ôl i Lywodraeth Cymru ddileu'r gefnogaeth ariannol.
Yn ôl cyn-ddirprwy gadeirydd y corff, Hugh Pattrick, mae'n "ergyd fawr" i dros 20,000 o lywodraethwyr ysgolion ar draws Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y rhan fwyaf o lywodraethwyr yn cael cyngor gan awdurdodau lleol yn hytrach na gan gorff Llywodraethwyr Cymru.
'Agenda gwahanol'
Dywedodd Mr Pattrick - un o sylfaenwyr Llywodraethwyr Cymru - wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Iau fod y penderfyniad i dorri'r cyllid yn "hollol warthus".
"Mae eu penderfyniad yn ergyd fawr i'r 21,000 o lywodraethwyr ysgol yng Nghymru," meddai.
"Rwy'n credu ei bod hi'n bosib bod amcanion arall gydag agenda gwahanol ar gyfer dyfodol llywodraethu ysgolion, ond bydd yn rhaid i ni aros i weld beth sy'n digwydd gyda hynny.
"Ond rwy'n credu y byddan nhw'n difaru'r penderfyniad achos mae ysgolion yn mynd i ddioddef ac rwy'n credu bydd mwy o gamgymeriadau yn cael eu gwneud."
Mae llywodraethwyr yn gosod arweiniad strategol i ysgolion ac yn goruchwylio gwaith penaethiaid ysgolion.
Maen nhw'n cynnwys athrawon, rhieni, cynghorwyr a chynrychiolwyr o'r gymuned leol ac mae ganddyn nhw rôl ganolog mewn penderfyniadau ynglŷn â chyllid a recriwtio staff.
Roedd Llywodraethwyr Cymru yn derbyn 90% o'i gyllid craidd gan y llywodraeth ac felly daeth y corff i ben pan gafodd y grant £150,000 ei ddileu.
Penderfyniad 'anhygoel'
Fe ddylai'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams "ailystyried y penderfyniad i ddod a'r cyllid i ben" yn ôl Geraint Lewis Jones, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn Sir Ddinbych.
"Mae'n anhygoel," meddai. "Mae'r llywodraeth ar yr un llaw yn sôn am gadw ysgolion bach ar agor, y cwricwlwm digidol newydd - y llywodraethwyr sy'n gyfrifol am yr ysgolion sy'n gorfod gwneud y newidiadau yma ac maen nhw'n cael gwared ar yr un corff sy'n rhoi cyngor a chefnogaeth i'r llywodraethwyr.
"Fe fydd yna lai o bobl eisiau bod yn llywodraethwyr os ydyn nhw'n gwybod bod 'na ddim cefnogaeth effeithiol, ond hefyd, does 'na neb arall allwch chi droi atyn nhw ar fyr rybudd a chael ateb cyflym oherwydd does 'na ddim digon o bobl bellach yn gweithio yn yr awdurdodau addysg ac mae'r consortiwm… mae digon o waith gyda nhw i neud fel mae hi.
"Y broblem ydy bod nhw ddim yn gweld neu ddim yn gwerthfawrogi beth yw rôl llywodraethwyr yn rhedeg ysgolion. A lleygwyr yw'r rhan fwyaf o'r bobl sydd angen cefnogaeth.
"Dw i'n derbyn y ddadl am doriadau ond mae angen edrych ar y gyfundrefn yn ei chyfanrwydd a gweld rôl y llywodraethwyr yn hyn."
'Penderfyniadau anodd'
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai diogelu gwariant i reng flaen ysgolion yw'r flaenoriaeth.
"Rydyn ni'n cydnabod y cyfraniad pwysig mae llywodraethwyr yn gwneud ond mae'r mwyafrif helaeth yn cael cefnogaeth a chyngor o'u hawdurdodau lleol yn hytrach na Llywodraethwyr Cymru," yn ôl llefarydd.
"Mae'r ysgrifennydd addysg wedi bod yn glir iawn, er mwyn amddiffyn rheng flaen ysgolion, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd.
"Gan fod cefnogaeth i lywodraethwyr eisoes yn cael ei ddarparu trwy awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol, mae'r grant i Lywodraethwyr Cymru wedi dod i ben.
"Yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol a chonsortia addysg wrth law i gynnig cefnogaeth i lywodraethwyr ac rydyn ni wrthi'n gweithio gyda'r consortia i gryfhau eu rôl yn y cymorth maen nhw'n darparu."