Undeb yn ystyried streic oherwydd newidiadau pensiwn
- Cyhoeddwyd

Mae undeb yn rhybuddio bod gweithredu diwydiannol yn "bosibilrwydd real" wedi i'r brifysgol gyhoeddi y bydd yn gwneud newidiadau i bensiwn staff newydd.
Dywedodd Prifysgol De Cymru fod y newidiadau'n angenrheidiol er mwyn osgoi problemau mawr i'r sefydliad yn y dyfodol.
Dywedodd undeb gweithwyr cyhoeddus Unsain fod y newidiadau, fyddai'n effeithio ar staff cymorth newydd, yn eu gwneud nhw'n weithwyr eilradd.
Mae pedair prifysgol arall yng Nghymru wedi wynebu streiciau'n ddiweddar oherwydd anghydfod gwahanol ar bensiwn darlithwyr.
Newidiadau
Byddai'r newidiadau i bensiynau ym Mhrifysgol De Cymru yn effeithio ar staff fyddai'n ymuno ag adrannau fel technoleg gwybodaeth a chofrestru academaidd o fis Awst 2018 ymlaen.
Fyddai'r newidiadau ddim yn effeithio ar staff academaidd.
Mae gan staff cymorth yn y brifysgol ar hyn o bryd hawl i fod yn rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ond dywedodd y brifysgol fod yna "bwysau cynyddol" ar gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus.
Dywedodd llefarydd fod y brifysgol "yn dewis ffordd synhwyrol ac ymarferol i gael y balans rhwng ein cyfrifoldeb i ddarparu pensiwn gwaith da gyda'r angen i osgoi atebolrwydd allai fod yn niweidiol iawn i'r brifysgol mewn cenedlaethau i ddod.
"Bydd gan staff cymorth fynediad i'r cynllun newydd, felly hefyd ei cydweithwyr presennol os dyna'u dymuniad. Bydd yr amodau eraill y gwasanaeth yn aros yr un fath.
"Mae gyda ni berthynas gryf a pharchus gyda'n undebau ac, er nad yw'n effeithio ar eu haelodau sy'n aelodau presennol o'n staff ni, byddwn yn parhau i siarad gyda nhw er mwyn deall eu pryderon."
Ystyried
Dywedodd Dan Beard, cynrychiolydd undeb ym Mhrifysgol De Cymru fod y brifysgol yn "tanseilio taliadau pensiwn y rhai sy'n cael eu talu leiaf".
"Cyflog gohiriedig yw'r pensiwn i bobl sydd wedi gweithio'n galed i'w dderbyn.
"Mae atal gweithwyr newydd rhag ymuno a'r cynllun pensiwn presennol i bob pwrpas yn ei ansefydlogi a'i ddibrisio.
"Byddwn yn ystyried sut i ymateb i'r cyhoeddiad ac mae gweithredu diwydiannol yn bosibilrwydd real."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018