Apêl yr hen ffordd Gymreig... o siafio

Huw Pierce Pritchard Image copyright Huw Pierce Pritchard
Image caption Mae'r ddefod o siafio yn y ffordd hen ffasiwn yn apelio yn ein bywydau modern prysur ac yn well i'r amgylchedd meddai Huw Pritchard

Os ydych chi'n dal i ddefnyddio rasel blastig i siafio, rydych chi ar ei hôl hi meddai dyn o Wynedd sy'n atgyweirio hen raseli llafn syth a'u gwerthu dros y byd.

Fel newid brwsh dannedd plastig am un bambŵ neu stopio defnyddio gwellt yfed, gallai defnyddio rasel hen ffasiwn sy'n para oes fod yn un o'r newidiadau bach eraill gall pobl sy'n poeni am yr amgylchedd ei wneud, yn ôl Huw Pritchard.

Mae hefyd wedi dod nôl i ffasiwn, yn enwedig yn y dinasoedd mawr, a llawer o siopau barbwr yn cynnig gwasanaeth siafio cut-throat efo llafn syth.

Ond yn ara' deg mae'n cydio yng Nghymru meddai Huw Pritchard.

"Dwi'n meddwl ein bod ni ar ei hôl hi yng Nghymru dipyn bach," meddai.

"Mae'n gywilydd i ddynion Cymru, ond dwi 'di gwerthu mwy o rasals i ferched yng Nghymru nag ydw i i ddynion. Mae 'na lot o ferched yn eu defnyddio nhw i siafio rŵan oherwydd ei fod yn iachach i'r croen."

Llafur cariad yw'r gwaith mae Huw yn ei wneud o'i gartref yn Chwilog ger Cricieth.

Mae'n rhoi elw ei fusnes raseli i elusennau gan weithio i gyngor sir wrth ei waith bob dydd.

Mae wedi gwerthu neu atgywirio hen raseli i gwsmeriaid yn America, Canada, Awstralia, Israel, Rwsia ac India.

"Dwi'n swnio fel ryw arms dealer rhyngwladol! Ond maen nhw'n boblogaidd iawn," meddai.

Felly beth yw'r apêl?

"Yn gyntaf, dwi'n meddwl fod bywyd wedi mynd mor gymhleth y dyddie yma," meddai.

"Mae'n bwysig gwneud y mundane yn bleserus - mae 'na bleser mewn siafio yn y ffordd draddodiadol ond yn fwy na hynny mae'n iachach i'r croen.

"Mae rasal cartridge fel arfer yn pinsho'r blewyn ac yn ei dorri. Mae'r blewyn wedyn yn mynd o dan y croen yn lle ei fod yn cael ei dorri'n hollol lefel efo'r croen fel mae straight razors yn ei wneud."

Mae'r blew wedyn yn tyfu o dan y croen ac yn ei wneud yn annifyr ac yn achosi bympiau, meddai Huw.

Image copyright Huw Pierce Pritchard
Image caption Mae Huw yn cofio gweld ei daid yn defnyddio rasal 'cut-throat' ac yn hogi llafnau

Hefyd, am fod cetrys newydd yn ddrud mae pobl yn eu cadw a'u defnyddio'n llawer rhy hir, meddai Huw, sy'n golygu bod hen groen a bacteria yn aros yn y rasel.

Ond rhesymau amgylcheddol yw'r peth pwysicaf i Huw.

"Aeth y cut-throat razor allan o ffasiwn oherwydd nad oedd cwmnïau ddim ond yn gallu gwerthu un neu ddau i bob cwsmer - byddai hynny'n ddigon i bara oes i rywun.

"Ond daeth King Gillete ar ddiwedd oes Ficoria â'r syniad o roi rasal i ddynion yn rhad a gwerthu'r blades am bris mawr - a dyna ydi model gwerthu Gillete ers hynny.

"Roedd hi'n anodd i gwmniau straight razors traddodiadol gystadlu efo hynny.

"Ond mae lot o bobl yn teimlo'n anghyfforddus rŵan bod rasal cartridge, ar ôl ei defnyddio unwaith, neu ar ôl ychydig wythnosau, yn styc mewn landfill neu yn y môr am filoedd o flynyddoedd.

"Mae'r peth reit afiach a dwi'n meddwl bod hwnnw'n rhan o'r atyniad at rasals hen ffasiwn.

"Roedd pethau ers talwm yn cael eu gwneud i gael defnydd ac i bara.

"Dwi newydd fod yn gweithio ar rasal oedd wedi ei thynnu allan o un o ffosydd yr Almaenwyr yn Ffrainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Dwi wedi ei hatgyweirio, ei hailhogi a'i greindio hi ac mi glywais gan y cwsmer fod y rasal wedi cael ei defnyddio am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd neithiwr.

"Mi wneith hi bara am 100-200 mlynedd mlynedd eto rŵan.

Image copyright Huw Pierce Pritchard
Image caption Rasel sydd o leiaf 100 oed gafodd ei darganfod yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf fel newydd ar ôl cael ei hatgyweirio

"Mae'n rhaid inni ddechrau parchu pethau. Mae 'na rywbeth am ddefnyddio stwff sy'n dal yn addas er eu bod nhw'n hen.

"Mae'r un peth yn wir am ddillad. Pam rydan ni'n gwisgo dillad wedi eu cynhyrchu mewn sweat shops sydd mor rhad nes ein bod ni'n eu taflu nhw cyn iddyn nhw wisgo allan hyd yn oed?"

Mae rhai hen raseli yn gwerthu am gannoedd os nad miloedd o bunnau ar wefannau fel ebay a phobl yn fodlon talu "pres gwirion" am frandiau fel Wade and Butcher o Sheffield neu Filarmonica o Sbaen meddai Huw.

Ond ar wahân i dalu ychydig o gyflog iddo'i hun am ei gostau mae'n rhoi ei elw i elusennau ac i fanc bwyd.

"Dwi'n credu mod i'n ddyn cyfoethog, er nad ydw i ddim mewn gwirionedd, ond dwi'n coelio'n gryf mewn symud pres i lle mae o'i angen," meddai.

Mae llu o wefannau a fforymau ar y we yn trafod y grefft o siafio traddodiadol a'r raseli gorau i wneud hynny ac mae Huw yn credu fod elfen o ddynion yn ceisio ailddiffinio eu rôl yng nghymdeithas heddiw yn rhan o'r apêl hefyd.

Un gair o rybudd sydd ganddo: "Mae yna goel gwlad fod defnyddio rasal yn ffordd o arbed arian ond dwi ddim yn coelio hynny - dwi'i weld yn gwario llawar mwy ar sebonau a brwshys a phob math o bethau eraill sydd ar gael!"

Gallwch ddilyn blog Huw ar ei wefan, Rasals.

Image copyright Huw Pierce Pritchard
Image caption Rasel â stamp Pwllheli arni

Efallai o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig