Medal arian i'r seiclwr Lewis Oliva yn Gemau'r Gymanwlad

Lewis Oliva
Image caption Mae Lewis Oliva sy'n 25 oed ac o Sir Fynwy yn rhan o dîm seiclo trac Cymru

Mae Cymru wedi sicrhau trydedd fedal yn Gemau'r Gymanwlad yn Awstralia ar ôl i'r seiclwr Lewis Oliva ennill y fedal arian yn y Keirin.

Mae Oliva, sy'n 25 oed, ac o Sir Fynwy yn rhan o dîm seiclo trac Cymru.

Yng nghystadleuaeth y Keirin mae'r seiclwr yn rhuthro i orffen y ras ar ôl dechrau sy'n cael ei reoli o ran cyflymder.

Daw medal Oliva ar ôl i'r codwr pwysau o Gaergybi, Gareth Evans ennill medal aur ddydd Gwener.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol