Agor gorsaf bad achub newydd Cricieth mewn seremoni

Gorsaf Bad Achub Cricieth Image copyright RNLI
Image caption Mae'r orsaf newydd wedi ei leoli ar flaen traeth Cricieth

Mae seremoni arbennig wedi'i threfnu yn nhref Cricieth ddydd Sadwrn i ddathlu agor gorsaf bad achub newydd.

Mae'r orsaf newydd sydd wedi ei lleoli ar flaen traeth Cricieth wedi'i hadeiladu i gadw cwch Arancia, sydd wedi bod yn gweithredu ers 2011, a cherbyd lansio brys newydd.

Mae nifer o bobl leol wedi cyfrannu at adeiladu'r adeilad newydd.

Dywedodd Rheolwr Bad Achub Cricieth Peter Williams: "Nid yn unig fydd y seremoni yn gyfle i ni dderbyn yr adeilad a'r cerbyd yn swyddogol ond yn gyfle hefyd i ni ddiolch i'r cyfranwyr sydd wedi rhoi yn hael.

"Bydd eu cyfraniadau yn helpu tuag at ein tasg o achub bywydau ar y môr," meddai.