Pro14: Gweilch 39-10 Connacht

Dan Evans Image copyright Getty Images
Image caption Y cefnwr Dan Evans sgoriodd ail gais y Gweilch

Cafodd y Gweilch hwb i'w gobeithion o fod yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf gyda buddugoliaeth pwynt bonws dros Connacht nos Wener.

Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda chais gan yr asgellwr Jeff Hassler o ryng-gipiad, cyn i'r Gwyddelod daro 'nôl gyda chais Craig Ronaldson.

Y cefnwr Dan Evans sgoriodd ail gais y Gweilch, tra bo Dan Biggar wedi cicio 10 pwynt yn yr hanner cyntaf i'w gwneud yn 20-10 ar yr egwyl.

Cafodd y Cymry ddechrau da i'r ail hanner hefyd, wrth i Scott Otten groesi cyn i Ashley Beck sicrhau'r pwynt bonws gydag 20 munud yn weddill.

Fe wnaeth Hanno Dirksen ychwanegu pumed i'r Gweilch, tra bod Biggar wedi ychwanegu pedwar pwynt arall yn yr ail hanner.

Pynciau Cysylltiedig