Cyhuddo person arall o lofruddio pensiynwr o Abertawe

John Jack Williams Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Fe welwyd John 'Jack' Williams ar gamera cylch cyfyng yn y cyfnod cyn ei farwolaeth

Mae person arall wedi ei cyhuddo o lofruddio dyn 67 oed yn Abertawe.

Cafodd corff John 'Jack' Williams ei ddarganfod yn ei gartref ar Ffordd Pentre-chwyth am 12:30 ddydd Sadwrn 31 Mawrth.

Fe ymddangosodd Gemma Owen, 31 oed o flaen llys ynadon Abertawe ddydd Sadwrn ar gyhuddiad o lofruddiaeth ac mae wedi ei chadw yn y ddalfa.

Yn ddiweddarach cafodd Simon Cairns, sy'n 45 oed o Abertawe hefyd ei gyhuddo o lofruddio Mr Williams.

Bydd yn ymddangos o flaen y llys ddydd Llun.

Mae Heddlu De Cymru yn dweud eu bod hefyd wedi arestio dyn 41 oed ar amheuaeth o lofruddio a dyn arall 57 oed ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae dyn 48 oed yn parhau yn y ddalfa wedi ei arestio ar amheuaeth o roi lloches i droseddwr.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol