Casnewydd 0-1 Stevenage

Image copyright Huw Evans picture agency

Casnewydd 0-1 Stevenage

Mae Casnewydd wedi disgyn un safle wrth iddyn nhw golli gartref yn erbyn Stevenage.

Gôl Chris Whelpdale wnaeth rhoi'r fantais i'r ymwelwyr wedi 42 munud.

Roedd Casnewydd wedi newid tactegau erbyn yr ail hanner ond wnaethon nhw ddim llwyddo mynd heibio i amddiffyn Stevenage.

Mae'r Alltudion nawr yn safle 13 yn y gynghrair.