Pro14: Benetton 29-27 Dreigiau

Image copyright Huw Evans picture agency

Pro14: Benetton 29-27 Dreigiau

Colli yn y funud olaf un ar ôl ymdrech arwrol yn yr Eidal fu hanes Dreigiau Gwent yn y Pro14 a hynny o 29 - 27.

Roedd hi'n edrych yn ddu iawn arnyn nhw hanner amser efo Benetton ar y blaen o 26 - 6.

Doedd y tîm o Gymru ddim wedi ennill gêm oddi cartref ers 31 o gemau ac roedd hi'n edrych yn anobeithiol eto.

Ond ar ôl dau gais yn gynnar yn yr ail hanner gan Landman a Rosser fe gaewyd y bwlch yn ddramatig.

A phan ddaeth cais arall gan eu canolwr addawol Connor Edwards ar ôl 65 munud, yn anhygoel roedd y Dreigiau ar y blaen o 26 - 27.

Ond yn y funud olaf un torrwyd eu calonnau pan ildiwyd cic gosb gafodd ei throsi gan y chwaraewr rhyngwladol i'r Eidal, Tebaldi.

Pynciau Cysylltiedig