Caethwasiaeth a manteisio ar weithwyr ar gynnydd

Roman Feko a Ladislav Fedak
Image caption Mae Roman Feko (chwith) a Ladislav Fedak nawr yn y carchar am ecsbloetio pedwar dyn

Mae ymchwiliad cudd gan raglen Wales Investigates BBC Cymru yn dangos faint o gamfanteisio ar weithwyr a chaethwasiaeth fodern sy'n digwydd yn y DU.

Wrth i ffigyrau ddangos fod 300% yn fwy o achosion o gaethwasiaeth fodern wedi cael eu cofnodi yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf, mae swyddogion gwrth-gaethwasiaeth yn cydnabod ei bod hi'n broblem gyfoes sy'n tyfu.

Yn y rhaglen gwelir tystiolaeth o 'fasnachwyr' yn gorfodi pobl fregus i weithio am ychydig neu ddim arian o gwbl.

Bydd y rhaglen hefyd yn dangos enghreifftiau o gamfanteisio ar weithwyr.

Tra'n ffilmio'n gudd ar strydoedd prysur, daw'r cynhyrchwyr o hyd i nifer o enghreifftiau o ecsbloetio gweithwyr - gyda nifer o bobl sy'n golchi ceir ac yn y diwydiant adeiladu yn cael cyflog lawer iawn yn is na'r isafswm cyflog.

Mae plismyn ar draws y DU yn cael eu hannog i weithredu'n llymach yn erbyn troseddwyr sy'n ecsbloetio gweithwyr.

Chwilio am fywyd gwell

Cafodd y rhaglen ganiatâd i ffilmio y tu mewn i lys Tsiecaidd a hynny wrth i ddau ddyn sy'n frodyr-yng-nghyfraith - Roman Feko a Ladislav Fedak - gael eu carcharu am ecsbloetio pedwar dyn a oedd wedi dod i Gymru i chwilio am fywyd gwell ond a fu'n gweithio fel caethweision.

Roedd Feko a Fedak yn rhedeg cwmnïau glanhau yng Nghaerdydd - roedd un o'r cwmnïau o fewn tafliad carreg i adeilad y Cynulliad Cenedlaethol yn y bae.

Roedd Feko a Fedak yn fwriadol yn targedu dynion bregus a digartref a arferai gysgu ar y stryd neu mewn gorsafoedd rheilffordd.

Wedi cyrraedd Cymru roedden nhw yn cael eu rhoi i weithio i gwmnïau glanhau am ychydig o arian neu ddim o gwbl.

Dywedodd un dioddefwr, sydd bellach yn ei 40au, ei fod wedi cael ei brynu gan y 'masnachwyr' a'i fod bellach yn eiddo iddyn nhw.

Image caption Ladislav Fedak yn gadael ei dŷ yn ne Cymru

Dywedodd: "Des i wybod fod Feko wedi fy mhrynu - sylweddolais ei fod wedi fy mhrynu fel petai yn prynu dodrefnyn.

"Pan ddywedodd Feko ei fod wedi fy mhrynu am 700 ewro ac y dylwn ymddwyn i gydfynd â hynny - yr hyn a wnes i oedd meddwi - ac fe geisiais ladd fy hun.

"Neidiais oddi ar bont ac fe ddihunais mewn ysbyty lle y siaradais â'r heddlu."

Fe ddarganfyddod yr heddlu fod Feko wedi symud i Gaerdydd ar ôl iddo dreulio 16 mlynedd (o ddedfryd 24 mlynedd) yn y carchar am iddo orchymyn llofruddio dau ddyn y bu'n eu hecsbloetio yn ei wlad enedigol yn y 1990au.

Er ei fod yn parhau ar gyfnod prawf roedd Feko yn rhydd i deithio i Gymru ac yn ôl ac yn rhydd i sefydlu cwmnïau glanhau yn brifddinas.

Image caption Tudor Thomas o'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fu'n arwain yr ymchwiliad ar y cyd â swyddogion o'r Weriniaeth Tsiec

Fe ddisgrifiodd y cyn-arolygydd Tudor Thomas, a fu'n arwain yr ymchwiliad, Feko a Fedak fel rhai a oedd yn rhan o "grŵp trosedd wedi'i drefnu".

Dywedodd: "Roedden nhw'n arwain gweithred o gaethwasiaeth - gweithred a oedd yn gwneud arian ar gefn eraill."

Wedi ymgyrch gan Heddlu'r De a phlismyn yn y Weriniaeth Tsiec cafodd Fedak ei garcharu am chwe blynedd a hanner a Feko am wyth mlynedd a hanner.

Cynnydd sylweddol

Ar wahân i fasnachu cyffuriau, dywedir mai caethwasiaeth fodern yw'r drosedd fwyaf enillfawr yn y byd.

Llynedd nodwyd y gallai 5,000 o ddynion, merched a phlant fod yn ddioddefwyr yn y DU - cynnydd o 35% ers y flwyddyn flaenorol a chynnydd o 300% ers dechrau cofnodi achosion chwe blynedd yn ôl.

Ymhellach nodwyd y gallai 200 o bobl yng Nghymru fod yn ddioddefwyr ac y mae plismyn yn dweud bod y nifer yn debygol o godi.

Yn ogystal â chaethwasiaeth fodern mae'r rhaglen yn ymchwilio i achosion o gamfanteisio ar weithwyr.

Tra'n ffilmio'n gudd ar strydoedd prysur cafodd nifer o achosion eu canfod.

Mae plismyn ac ymgyrchwyr yn credu bod miloedd yn fwy o ddioddefwyr ar draws y DU.

Yr heddlu am erlyn

Ar y rhaglen bydd newyddiadurwr o Romania, a fu'n ffilmio yn gudd, yn cael cynnig £30 am ddeg awr o waith yn golchi ceir mewn lle golchi ceir â llaw yn ne Cymru.

Roedd e hefyd yn gorfod talu £130 y mis am gael rhannu matras mewn atig nad oedd wedi'i ddodrefnu.

Yn ddiweddarach dywedodd y rheolwr wrtho y gallai'r busnes wneud £4,000 yr wythhnos.

Pan yn cael eu holi mae rheolwyr yn gwadu'r honiadau sy'n cael eu gwneud ar y rhaglen ac yn dweud fod perchnogion newydd yno bellach.

Yn ôl Prif Gwnstabl Gwent, Julian Williams - sy'n arwain yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth fodern - bydd yr honiadau a wneir yn y rhaglen yn cael eu hymchwilio.

Dywedodd: "Mae'n anghyfreithlon talu'r cyflogau yna... ry'n angen canfod pwy sy'n gwneud fel bod modd erlyn a delio gyda nhw ynghyd â delio gyda'r lefel yna o ecsbloetio."

Mae e am i'r cyhoedd ymuno â'r heddlu i fynd i'r afael â'r drosedd ac i roi gwybodaeth am ddigwyddiadau amheus fel bod dioddefwyr yn cael eu hadnabod a bod y sawl sy'n cyflawni'r troseddau yn mynd gerbron llys.

Bydd Wales Investigates- People for Sale i'w gweld ar BBC 1 Cymru am 8.30pm ar Ebrill 9.

Straeon perthnasol