A oes modd bod yn hiliol yn erbyn y Cymry?

Mae darn dadleuol sy'n trafod newid enw ail Pont Hafren wedi arwain at gwynion i gorff safonau'r cyfryngau ac i Heddlu Gogledd Cymru.

Yn ei golofn yn y Sunday Times, mae Rod Liddle yn dweud nad oedd enw'r bont o bwys cyn belled â'i bod yn "caniatáu pobl i adael [Cymru] yn syth".

Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, dywedodd yr Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts: "Mae rhywun yn digalonni, a gofyn pa amddiffyniad cyfreithiol sydd gennym ni, os ydych chi'n ei alw'n hiliol ai peidio, mae o'n rhagfarn, ac mae'n cael ei ddefnyddio yn ein herbyn ni."

Felly sut ddylai'r Cymry ymateb? Ai erthygl tafod yn y foch ydy hon? Ac ydy hi'n bosib i fod yn hiliol yn erbyn y Cymry?

Dywedodd y Parchedig Aled Edwards ar raglen Taro'r Post ddydd Llun ei fod yn bwriadu mynd â'r mater at sylw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

"Beth 'dan ni'n gw'bod yn y cefndir fan hyn ydy bod 'na gynnydd sylweddol wedi bod mewn digwyddiadau o atgasedd ac weithiau, troseddau cyfreithiol yn erbyn siaradwyr Cymraeg," meddai.

Y Parchedig Aled Edwards

"Mae tu hwnt i hiwmor, os mae'n peri i bobl deimlo bod ganddyn nhw ryddid i andwyo pobl ac i drin pobl yn wael ar y strydoedd ac yn y lle gwaith, mae'n rhaid i ni ddweud digon ydy digon.

"Gadewch i ni gofio bod 'na lofruddiaethau yn Llundain, hynny wedi ei briodoli i'r hinsawdd sy' 'na ar hyn o bryd ar gyfryngau cymdeithasol.

"Mae'r atgasedd yma ar gynnydd, ac y gwirionedd ydy, mae'r hyn dd'wedodd [Rod Liddle] mae hwn yn taro ar gwestiwn hil a chyfraith.

"Gall rhai ddweud 'dim ots', ond mae'n peri tramgwydd sylweddol i eraill, ac fe all beri niwed. Mae 'na gyfraith a throseddau fan hyn.

"Mae 'na droseddu ar y strydoedd, mae 'na sarhad yn cael ei daflu at Gymry Cymraeg ynglŷn â'r iaith... ond weithiau mae'n gorlifo i ddarparu gwasanaethau, mewn siopau sy' wedi gwrthod y Gymraeg.

"Os ydach chi'n tramgwyddo ar elfennau arbennig, am resymau penodol, fedrwch chi ddim anwybyddu hyn."

Mae rhai, gan gynnwys yr AS Susan Elan Jones, wedi cysylltu â'r heddlu ynglŷn â'r erthygl:

Fe ofynnodd Cymru Fyw i'r cyfreithiwr Owen John a oes modd bod yn hiliol yn erbyn y Cymry?

"Mae rhai yn honni bod hwn yn ddifenwad (defamation) - ond rwyt ti ond yn gallu difenwi unigolyn - dwyt ti ddim yn gallu difenwi cenedl, neu grŵp o bobl, felly dydy e ddim yn ddifenwad," meddai.

"Mae 'na Ddeddf Cydraddoldeb i gael, eto mae hwnnw ond yn berthnasol ble mae unigolion yn cael eu singlo mas am driniaeth gwahanol, felly dwi'n meddwl bod y Ddeddf Cydraddoldeb allan o'r cwestiwn.

"Ond yr unig beth galle hwn fod - sy'n ei wneud yn fater troseddol yn hytrach na mater sifil - yw ysgogi casineb hiliol. Mae 'na farc cwestiwn dwi'n credu pun ai ydy hwn yn ysgogi casineb hiliol ac felly yn fater fyddai'n gallu cael ei gyfeirio at yr heddlu.

"Mae ysgogi casineb hiliol yn gallu bod yn erbyn hil neu grŵp o bobl ac yn ddadleuol bydde'r Cymry yn cwmpo o fewn y diffiniad hynny o hil neu o dras penodol.

"Os byddai'r mater hwn yn cael ei basio i'r heddlu, fe fydden nhw'n edrych arno fel hate crime - hynny yw bod rhywun yn neud rhyw sylwad at grŵp neu hil neu dras er mwyn ysgogi casineb yn eu herbyn nhw.

Image copyright Darwin Gray
Image caption Owen John

"Bydde gan Rod Liddle ddwy ddadl. Bydde fe'n dweud, nid ysgogi casineb hiliol oedd ei nod gwirioneddol e, achos petai unrhyw un yn darllen ei erthyglau o wythnos i wythnos [yn y Sunday Times] yna byddai pobl yn gwybod eu bod nhw yn tafod yn y foch, mae'n gwneud yn ysgafn o issues mawr trwy'r amser.

"Mi fydde llys yn edrych ar y cyd-destun ac yn edrych ar y bwriad gwirioneddol, a bydde fe'n dadlau mai nid ei wir fwriad oedd i ysgogi casineb ond jyst i greu storom yn y cyfryngau, ac yn hynny o beth, mae wedi llwyddo.

"Yr ail beth ydy, y Confensiwm Ewropeaidd ar hawliau dynol. O dan erthygl 10 o'r Confensiwn mae gen ti hawl i fynegi barn.

"Dydy hwnna ddim yn hawl di-ben draw, mae yna gyfyngiadau, ti dal yn gorfod mynegi dy farn mewn ffordd rhesymol, ond dyna un peth fydde Rod Liddle yn ei ddadlau.

"Petai bod yn gas yn drosedd, byddai pawb yn cael eu cosbi, ond y pwynt pwysig yw, ydy hwn yn drosedd o gasineb (hate crime)?

"Y cwestiwn i'r heddlu, ac ymhellach na hynny, y CPS [Crown Prosecution Service], fyddai penderfynu ai bwriad Rod Liddle oedd ysgogi casineb ar sail hil, ac a ydy e wedi llwyddo i wneud hynny? Ydy pobl nawr yn casau y Cymry fel hil ar sail ei sylwadau e?

"Dwi ddim yn meddwl bydd 'na unrhyw fath o gosb iddo fe. Mae 'na ddigon o dimau cyfreithiol y tu nôl i'r Sunday Times, maen nhw'n ofalus iawn.

"Dydy hwn yn sicr ddim yn ddu a gwyn."

Pynciau Cysylltiedig