Agor cwest i farwolaethau dyn a menyw yng Ngheinewydd

Mandy Mousley a Jacob Davies Image copyright Llun teulu
Image caption Cafodd cyrff Mandy Mousley ac Emyr Jacob Davies eu canfod ar lwybr arfordir Ceredigion ger Ceinewydd

Mae cwest wedi cael ei agor i farwolaethau dyn a menyw gafodd eu canfod ar lwybr arfordirol Ceredigion.

Roedd Amanda Jayne Moulsey, 47, yn dod o Geinewydd ac Emyr Jacob Davies, 49. yn dod o Lanarth yng Ngheredigion.

Cafwyd hyd i gyrff y ddau ger Ceinewydd ddydd Mercher, 4 Ebrill.

Yn wreiddiol dywedodd yr heddlu bod y marwolaethau yn cael eu trin fel rhai "heb esboniad".

Cafodd y cwest ei agor gan yr uwch grwner, Peter Brunton, ddydd Llun, a'i ohirio nes dyddiad pellach.

Dywedodd Dan Potter, sy'n cynrychioli ward Ceinewydd ar gyngor Ceredigion bod "y pentref cyfan wedi tristáu" o glywed y newyddion am farwolaethau "dau o bobl leol".