Celfyddydau Cymru 'ar ei hôl hi' wrth hybu amrywiaeth

drama Swarm
Image caption Fe wnaeth Abdul Shayek gyfarwyddo drama Swarm yn 2016 yn trafod yr argyfwng ffoaduriaid

Dyw'r celfyddydau yng Nghymru ddim yn cynrychioli ei phobl ac mae'r wlad "ar ei hôl hi" wrth hybu amrywiaeth, yn ôl pennaeth cwmni theatr.

Dywedodd y cyfarwyddwr artistig Abdul Shayek, wnaeth symud o Lundain i Gaerdydd saith mlynedd yn ôl, ei fod wedi sylwi ar wahaniaethau.

Yn ddiweddar bu'n gyfrifol am redeg prosiect i roi mwy o gyfleoedd i bobl o leiafrifoedd ethnig.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dweud eu bod yn rhoi "pwyslais cynyddol" yn eu cynlluniau ar sicrhau ei bod hi'n haws cymryd rhan.

'Hierarchaeth'

"Dwi ddim yn meddwl fod y sector yn cynrychioli'r cymunedau a'r bobl sy'n byw yma," meddai Mr Shayek, wnaeth sefydlu cwmni theatr Fio yn 2015 i adrodd straeon amrywiol.

"Yn dod o Lundain, dwi'n gweld hynny. Dwi'n teimlo hynny. Rydyn ni ar ei hôl hi."

Cafodd prosiect 'Declaration' ei sefydlu gan Mr Shayek ar gyfer actorion ac ysgrifenwyr oherwydd y pryder nad oedd pobl o leiafrifoedd ethnig a grwpiau oedd yn cael eu tangynrychioli yn cael digon o gyfleoedd.

Dywedodd Nazma Ali o Abertawe, wnaeth gymryd rhan yn y prosiect, ei bod eisiau ysgrifennu ers blynyddoedd ond ei bod yn teimlo fel petai wedi'i chau allan.

"Mae 'na hierarchaeth. 'Dych chi'n meddwl, fydda i'n cymysgu? Yw e'n iawn i fi fynd i'r lle yma ble dyw e ddim yn edrych fel bod pobl eraill o leiafrifoedd ethnig?" meddai.

Image copyright Only Boys Aloud
Image caption Mae côr ieuenctid Only Boys Aloud yn un sydd wedi rhoi cyfleoedd perfformio i lawer o fechgyn o gefndiroedd difreintiedig

"Fyddan nhw'n fy nerbyn? Mae'n rhaid i chi drio 'chydig yn galetach ac er eich bod chi'n cael eich gweld, mae'n anodd iawn symud y peth ymlaen."

Fe wnaeth Hannah Lloyd, 22, o Dreorci yn Rhondda Cynon Taf hefyd gymryd rhan yn y prosiect, sydd wedi'i ariannu gan y Cyngor Celfyddydau ac yn cynnig dosbarthiadau am ddim a bwrsariaethau o £400 i'r rheiny sy'n cymryd rhan.

"Allai ddim fforddio dal trên i Gaerdydd ar gyfer y cyfleoedd hyn ond eto does neb yn dod â'r cyfleoedd yma i fy nrws ffrynt," meddai.

"Felly dyw pobl o gefndir dosbarth gweithiol ddim yn cael mynediad i'r cyfleoedd hynny, ac mae'r diwydiant yn mynd fwyfwy dosbarth canol."

Cymunedau gwledig

Dywedodd Mr Shayek ei fod yn credu bod pethau'n symud yn rhy araf o ran addysg a dealltwriaeth pobl o'r angen i gynyddu amrywiaeth.

"Yn fwy aml na pheidio, mae cymunedau gwledig yn ynysig a ddim yn dod ar draws pobl sydd yn wahanol o ran hil, ethnigrwydd neu anabledd," meddai.

Image caption Dim ond pedair drama yn y Gymraeg gafodd eu comisiynu gan Theatr Sherman yng Nghaerdydd rhwng 2013 a Medi 2017

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Celfyddydau eu bod yn cefnogi ystod eang o berfformiadau oedd yn adlewyrchu hunaniaeth Cymru.

"Ni fyddai'r cyntaf fodd bynnag i gydnabod nad oes digon o waith ar hyn o bryd i ateb diddordebau ac anghenion y cymunedau hyn," meddai.

Ychwanegodd y llefarydd y byddai mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol yn mynd tuag at waith creadigol gan artistiaid o leiafrifoedd ethnig, artistiaid anabl, a'r rheiny oedd yn gweithio yn yr iaith Gymraeg.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol