Llofruddiaeth Abertawe: Pedwar o flaen Llys y Goron

John Williams Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Llun camera cylch cyfyng o John 'Jack' Williams ddyddiau cyn ei farwolaeth

Mae pedwar o bobl wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe mewn cysylltiad â marwolaeth pensiynwr yn ei gartref yn y ddinas.

Daeth yr heddlu hyd i gorff John 'Jack' Williams, 67, yn ei gartref yn Ffordd Pentre-chwyth ddydd Sadwrn 13 Mawrth.

Mae Jonathan Donne, 41, ei gariad Gemma Owens, 31 a Simon Cairns, 45 wedi'u cyhuddo o lofruddio Mr Williams.

Mae Faisal Kadir, 57, wedi'i gyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Mae disgwyl i'r diffynyddion gyflwyno ple yn eu hymddangosiad llys nesaf ar 17 Awst.

Doedd dim cais am fechnïaeth ac fe gafodd y pedwar eu cadw yn y ddalfa.

Pynciau Cysylltiedig