Pro14: Zebre 34-32 Dreigiau

Jarred Rosser Image copyright Roberto Bregani/Huw Evans Agency

Fe wnaeth y Dreigiau ildio mantais oedd ar un adeg yn edrych yn ddiguro gan golli i Zebre yn yr Eidal.

Golygai'r canlyniad fod y Dreigiau wedi colli pob gêm yn y Pro14 yn y chwe mis diwethaf.

Marcello Violi sgoriodd y cais cyntaf i'r tîm cartref, cyn i Jared Rosser groesi'r llinell gais tair gwaith, gyda chais arall i Charlie Davies yn rhoi'r Dreigiau 16 pwynt ar y blaen.

Ond tarodd Zebre yn ôl wedi'r egwyl, gyda chais yr un i Tommaso Castello, Tommaso D'Apice, Johan Meyer a Carlo Canna yn eu rhoi ar y blaen gyda 10 munud yn weddill.

Roedd hi'n ymddangos fod y Dreigiau wedi sgorio cais buddugol yn y munudau olaf, ond penderfynodd y TMO nad oedd yn ddilys.

Pynciau Cysylltiedig