Dyfodol yr Academi Gymreig yn 'fwy gobeithiol'

gwesty'r Marine, Aberystwyth Image copyright Google
Image caption Roedd y cyfarfod ddydd Sadwrn yn cael ei gynnal yng ngwesty'r Marine yn Aberystwyth

Dywed aelod blaenllaw o'r Academi Gymreig fod dyfodol y sefydliad llenyddol yn edrych yn fwy gobeithiol yn dilyn cyfarfod cyffredinol yn Aberystwyth dydd Sadwrn.

Daw hyn wedi rhybudd gan gadeirydd yr Academi, Tom Anderson, y gallai'r sefydliad orfod dirwyn i ben os nad yw'n 'diwygio ac yn ystyried ei bwrpas ar gyfer y dyfodol.'

Ond yn ôl Eurig Salisbury, un o aelodau pwyllgor yr Academi, roedd yna deimlad pendant yn y cyfarfod na ddylid dod â'r sefydliad i ben a bod yna deimlad positif am y dyfodol.

Cafodd yr Academi Gymreig ei sefydlu yn 1959 fel cymdeithas ar gyfer llenorion, ac fe aethon nhw ymlaen i lansio cylchgrawn llenyddol Taliesin ddwy flynedd yn ddiweddarach.

"Un o'r penderfyniadau pwysig oedd i beidio â dod a'r Academi i ben, neu o leiaf doedd yna ddim pleidlais i wneud hynny," meddai Mr Salisbury.

"Mae'r dewis yna wedi ei wrthod ac mae'n un o'r pethau positif o'r cyfarfod.

"Mae'r aelodau eisiau parhau ac eisiau gwneud rhywbeth i ddatblygu'r sefydliad o fan hyn."

'Ystyried pob opsiwn'

Dywedodd y bydd y pwyllgor nawr yn ystyried hyd a lled ac asesu unrhyw gynigion sy'n dod ger eu bron.

"Ond yn y fan lleiaf rydym yn gwybod y bydd yr ysgoloriaethau yn parhau yn y cyfamser - arian ewyllys Glyn Jones a bydd yr arian yn parhau."

Cyn cyfarfod dydd Sadwrn roedd Mr Anderson wedi ysgrifennu at aelodau yn dweud fod angen ystyried "pob opsiwn ar gyfer y dyfodol".

Ychwanegodd y cadeirydd fod y sefydliad, sydd ar hyn o bryd yn dod o dan adain Llenyddiaeth Cymru, yn wynebu'r her o "fagu corff aelodaeth digon gweithgar i oroesi".

'Croesffordd'

Er bod gan yr Academi Gymreig ei bwrdd a'i strwythurau rheoli ei hun, maen nhw ar hyn o bryd yn cael rhywfaint o gymorth gweinyddol gan Lenyddiaeth Cymru.

Yn ei lythyr i aelodau dywedodd Mr Anderson na fydd y gefnogaeth hwnnw'n medru parhau yn y dyfodol, yn rhannol oherwydd newidiadau i ddeddfwriaeth gwarchod data, ond hefyd oherwydd y bwriad i geisio sefydlu'r Academi fel corff annibynnol.

"Rydyn ni wedi cyrraedd mwy na dim ond croesffordd, mae'n debyg," meddai yn ei neges.

"Rhaid i mi bwysleisio nad ydw i'n credu mai torri cyllidebau sydd ar fai am y ffaith bod yr Academi Gymreig wedi arafu - ond yn hytrach sicrhau bod aelodau a chymrodorion yn ymgymryd â hi."