Cynghorau'n gofyn am gymorth gyda chost yr eira

Car on snowy road Image copyright Getty Images
Image caption Fe achosodd yr eira anrhefn ar draws Cymru wrth i nifer o ysgolion orfod cau ac roedd bwyd mewn rhai siopau yn brin iawn.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mae cyllidebau nifer o gynghorau sir yn dioddef wedi i'r eira daro Cymru fwy nag unwaith yn ystod Chwefror a Mawrth eleni.

Mae rhai cynghorau eisoes wedi gofyn am gymorth ariannol.

Fe wariodd cynghorau Caerffili a Mynwy bron i £900,000 rhyngddynt yn Chwefror a Mawrth, gyda Mynwy wedi defnyddio dwbl maint yr halen yn 2017/18 a ddefnyddiwyd ganddynt ym mhob un o'r chwe blynedd ddiwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Er bod cynghorau wedi cynllunio yn dda o flaen llaw maent yn wynebu costau ychwanegol wrth ymateb i'r cyfnod diweddaraf o dywydd eithafol.

"Ar hyn o bryd mae trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru er mwyn canfod a ellid cael cefnogaeth i awdurdodau lleol."

Yn ystod Chwefor fe ddisgynnodd y tymheredd yng Nghymru yn is na -5C wrth i dywydd oer Siberia daro, ac ar ddechrau Mawrth fe achosodd tywydd oer o'r dwyrain a Storm Emma nifer o broblemau.

Roedd hefyd mwy o eira mewn mannau ganol mis Mawrth.

2,200 tunnell o halen

Mae'r gost ychwanegol i Sir Fynwy oherwydd tywydd garw Rhagfyr, Chwefror a Mawrth yn £450,000, ac mae'r cyngor wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am gymorth ariannol.

Defnyddiodd Cyngor Caerffili 2,200 tunnell o halen yn ystod Chwefror a Mawrth yn unig, a hynny ar gost o £428,451.

Cronfeydd y cyngor fydd yn talu am hynny a chronfeydd cadw Cyngor Torfaen fydd yn talu am y 4,450 tunnell o halen a gafodd ei ddefnyddio ganddyn nhw - 1.5 gwaith y swm arferol.

Image copyright PA
Image caption Llif dŵr yn rhewi ar fynydd Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog

Yng Nghonwy roedd y gost yn £236,000 yn ychwanegol - bydd £136,000 yn dod o gronfa tywydd gwael a'r gweddill yn dod o arian gafodd ei arbed gan adrannau'r cyngor.

Yn ystod diwrnodau cyntaf Mawrth fe wariodd Cyngor Casnewydd £120,412 yn ychwanegol ar 1,110 tunnell o halen, 1,581 o oriau staff a 6,882 milltir a wnaed gan gerbydau cefnogi a cherbydau cynnal a chadw.

Yn Sir Gaerfyrddin cafodd 1,923 tunnell yn ychwanegol o halen ei wasgaru - cost sy'n cael ei dalu gan gyllideb adran cynnal y ffyrdd.

Yn Chwefror a Mawrth fe wariodd Cyngor Penfro £130,000 yn fwy gan ddefnyddio 1,150 tunnell yn fwy o halen, ac roedd y gost ychwanegol i Gyngor Pen-y-bont yn £107,571 am 850 tunnell ychwanegol o raean.

Ar Ynys Môn cafodd 1,000 tunnell ychwanegol o halen ei ddefnyddio ac fe gafodd y gost o £36,998 ei thalu gan gronfa a oedd wedi'i neilltuo ar gyfer eira.

Image copyright Mooli/BBC
Image caption Ym Mro Morgannwg roedd y tywydd mor ddrwg nes bod peiriant graeanu wedi'i gladdu yn yr eira

Roedd y gost ychwanegol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn £92,000 wrth iddynt ddefnyddio 1,300 tunnell yn fwy o raean.

Doedd dim ffigyrau misol gan Gyngor Wrecsam ond maent yn dweud mai dyma'r tro cyntaf ers 2005 iddynt ddefnyddio mwy na 10,000 tunnell o raean.

Mae Cyngor Ceredigion yn rhagweld y bydd eu bil gwasanaethau gaeaf yn fwy na'r gyllideb gafodd ei chlustnodi ac fe ddywedodd llefarydd bod y cyngor wedi dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i gael cymorth ariannol.

'Nid dim ond cost y graean'

Dywedodd: "Mae ein hymatebion i'r tywydd oer yn pwyso'n drwm ar ein hadnoddau ac nid oes modd nodi'r gost trwy fesur faint yn fwy o raean a ddefnyddiwyd.

"Ar rai ffyrdd roedd rhaid defnyddio erydr eira a chwythwyr eira.

"Mae'r cyfanswm o raean a ddefnyddiwyd gennym yn ystod gaeaf 2017/18 eisoes yn fwy na'r hyn a ddefnyddiwyd yn ystod blynyddoedd 15/16 a 16/17 gyda'i gilydd."

Image copyright Eluned Yaxley
Image caption Llithrodd lori raeanu oddi ar y ffordd rhwng Dinbych a Threfnant oherwydd bod yr eira a'r rhew gynddrwg

Y cyngor mwyaf yng Nghymru o ran tir yw Powys - hyd yma dyw'r cyngor ddim wedi cyfrif maint cost y tywydd eithafol ond cafodd 1,300 tunnell o halen ei ddefnyddio, a'r cyfanswm fel arfer yw 550 tunnell.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn amcangyfrif y bydd y gost ychwanegol oddeutu £320,000.

Yn 2017/18 cafodd 10,090 tunnell o raean ei ddefnyddio o'i gymharu â 5,500 yn 2016/17.

Dywed y pennaeth cludiant Steve Jones: "Mae tywydd eithafol y gaeaf wedi cael cryn effaith ac rydyn ni wedi gorfod gwario mwy o arian i wella cyflwr y ffyrdd."

Roedd gan Gyngor Caerdydd 2,500 tunnell o raean yn barod ar gyfer y gaeaf a doedd dim rhaid iddynt archebu mwy.

Rhwng 28 Chwefror a 5 Mawrth fe ddefnyddiodd y cyngor 650 tunnell o raean ar fwy na 3,392 milltir o ffordd.

Llywodraeth yn ystyried y gost

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gwerthfawrogi'r gwaith caled a wnaed gan staff cyngor a chontractwyr i ddelio â'r tywydd drwg.

Ychwanegodd: "Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi casglu ynghyd y costau ychwanegol a oedd i gynghorau yn ystod y tywydd eithafol ac ar hyn o bryd mae'r costau hynny yn cael eu hystyried."

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders, y dylai'r llywodraeth sicrhau nad yw'r costau'n cael eu pasio i drethdalwyr.

Dywedodd bod cynghorau wedi gwneud "ymdrech enfawr" adeg y tywydd, a bod hynny wedi arwain at "gostau ychwanegol enfawr".

"Mewn cyfnodau o dywydd eithafol, mae adnoddau'n cael eu gwasgaru ac mae'n rhaid sicrhau nad yw'r gost yn cael ei basio ymlaen i drethdalwyr."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol