Carwyn Jones yn bygwth cyfraith i atal cyhoeddi adroddiad

Carwyn Jones
Image caption Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn galw ar Elin Jones i ddiddymu'r drafodaeth

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi bygwth cymryd camau cyfreithiol er mwyn rhwystro cyhoeddi adroddiad am ryddhau gwybodaeth yn ystod yr ad-drefnu yn dilyn diswyddiad Carl Sargeant.

Roedd Aelodau Cynulliad i fod i drafod galwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig i gyhoeddi'r adroddiad ddydd Mercher.

Mae'r prif weinidog wedi ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad, Elin Jones yn dweud ei bod hi wedi ymddwyn yn "anghyfreithlon", ac yn gofyn iddi ddiddymu'r drafodaeth.

Ychwanegodd: "Byddai hyn yn dod â'r mater i ben heb fod angen achos llys."

Ond yn ei hymateb, dywedodd y Llywydd nad oedd hi "wedi'i pherswadio" gan Mr Jones, ac y byddai'r ddadl ddydd Mercher yn mynd yn ei blaen.

'Ymddwyn yn anghyfreithlon'

Mewn llythyr i Ms Jones, dywedodd y prif weinidog eu bod yn poeni am y ffordd mae'r Senedd wedi ymddwyn, a'r ffordd y maen nhw'n parhau i fygwth ymddygiad anghyfreithlon.

Os nad yw cais y Ceidwadwyr yn cael ei alw yn ôl, mae Mr Jones yn "cadw'r hawl i ddod â'r achos o flaen adolygiad barnwrol".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fod y llywodraeth yn mynd i "ymdrech arbennig" i rwystro cyhoeddi'r adroddiad.

Ychwanegodd fod hyn yn "her uniongyrchol" i gyfreithlondeb y Senedd.

Cafodd Mr Sargeant, y cyn-Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant. ei ddarganfod yn farw bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo.

Collodd ei swydd fel rhan o'r ad-drefnu yn dilyn cyhuddiadau o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod.

Image caption Dywedodd Andrew RT Davies fod hyn yn her uniongyrchol i gyfreithlondeb y Senedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cyhoeddi adroddiad yn dilyn ymchwiliad i honiadau bod gwybodaeth am ddiswyddiad Mr Sargeant wedi ei ryddhau i'r cyfryngau.

Casgliad yr adroddiad oedd nad oedd tystiolaeth bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau gwybodaeth o flaen llaw am ad-drefnu'r cabinet, a diswyddiad Mr Sargeant, yn answyddogol.

Rheswm y llywodraeth dros beidio cyhoeddi'r adroddiad yw'r posibilrwydd y gall unigolion a gymrodd ran yn yr ymchwiliad gael eu hadnabod.

'Angen atebion'

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn gobeithio defnyddio cymal 37 yn Neddf Llywodraeth Cymru fyddai'n gorfodi cyhoeddi'r adroddiad.

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth, dywedodd Mr Davies ei fod ar ddeall bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno llythyr cyfreithiol i'r Llywydd Elin Jones i geisio rhwystro'r drafodaeth rhag digwydd.

Daeth Aelodau Cynulliad i wybod am y llythyr yn y pwyllgor busnes brynhawn Llun.

Ychwanegodd Mr Davies: "Mae'n rhan o'n dyletswydd ni fel gwleidyddion i gasglu atebion a gwneud yn siŵr nad oes dim byd tebyg yn digwydd fyth eto."

Image caption Cafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru bedwar diwrnod cyn iddo gael ei ganfod yn farw

Mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru, dywedodd lefarydd ar eu rhan fod yr achos yma yn llawer mwy na'r drafodaeth dan sylw.

"Mae'r ffordd y mae cymal 37 yn cael ei ddehongli gan y Llywydd yn rhoi Llywodraeth Cymru mewn safle cas lle fydd posib y bydd rhaid cyhoeddi gwybodaeth heb ystyried unrhyw gyfreithiau na hawliau.

"Credwn ni fod hyn yn anghyfreithlon a gan ystyried pwysigrwydd y materion yn ymwneud a chymal 37, byddwn yn ceisio am benderfyniad gan y llys," meddai'r llefarydd.

Dywedodd y llywodraeth fod perygl y gall cymal 37 gael ei ddefnyddio i ryddhau gwybodaeth sensitif gan gynnwys manylion personol, neu gytundebau masnachol cyfrinachol heb roi sylw i ganllawiau amddiffyn data a rheolau a chyfreithiau eraill.

Ond mewn llythyr yn ymateb i'r prif weinidog, dywedodd Elin Jones: "Rydw i wedi cymryd cyngor ac ystyried eich dadleuon yn ofalus.

"Ar ôl gwneud hynny, dydw i ddim wedi fy mherswadio gyda'r achos rydych chi wedi'i gyflwyno. O ganlyniad, mae bwriad o hyd i drafod y cynnig yfory."

'Dim ofn'

Cafodd y mater ei godi yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, gyda Mr Davies yn cyhuddo'r prif weinidog o geisio "tawelu'r Cynulliad" a bod "uwchlaw'r gyfraith".

"Hoffwn gadarnhad heddiw na fyddwch chi'n ceisio ymyrryd a stopio'r ddadl rhag digwydd prynhawn fory," meddai.

Mynnodd Mr Jones nad oedd ganddo'r grym i atal y drafodaeth rhag digwydd, ond ei fod wedi codi'r mater gyda'r Llywydd oherwydd pryderon am gyfrinachedd a bod "diffyg eglurdeb" am y rheolau presennol.

"Does gen i ddim ofn yr ymchwiliad i ollwng gwybodaeth - fi wnaeth ei orchymyn," meddai'r prif weinidog.

Dadansoddiad Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick:

Os oedd Carwyn Jones yn gobeithio y byddai gwyliau'r Pasg yn arwain at leihau'r pwysau arno yn sgil marwolaeth Carl Sargeant mae'r gobeithion hynny wedi eu chwalu gan ddigwyddiadau heddiw.

Gyda'r llywodraeth a Llywydd y Cynulliad benben â'i gilydd ynghylch hawl y Cynulliad i orfodi'r llywodraeth i gyhoeddi'r adroddiad dadleuol, mae'n anodd gweld sut mae datrys y sefyllfa heb fynd i lys.

Hyd yn oed os ydy dadleuon cyfreithiol y llywodraeth yn gywir fe fyddai achos o'r fath ond yn ychwanegu at y canfyddiad bod ganddyn nhw rywbeth i'w guddio.

Mae'r gwrthbleidiau'n gwybod hynny, ac roedd hi'n amlwg yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog heddiw eu bod yn arogli gwaed.

Roedd y meinciau Llafur, ar y llaw arall, yn dawedog. Does dim arwydd eto bod Carwyn Jones wedi colli cefnogaeth y meinciau cefn, ond mae'n amlwg hefyd bod y gefnogaeth honno erbyn hyn yn amodol.

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni warchod aelod blaenllaw o staff Llywodraeth Cymru fyddai, petai'r cynnig yn cael ei basio, yn wynebu risg o gael eu herlyn. Mae'n fater cyfreithiol o bwys difrifol."

Gofynnodd arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton a oedd Carwyn Jones am gael ei gymharu â Richard Nixon, wnaeth orfod ymddiswyddo fel arlywydd yr UDA am geisio "celu'r gwir" am sgandal Watergate.

Dywedodd Mr Jones: "Dwi'n gofyn i'r gwrthbleidiau yn y Siambr yma, petaech chi mewn sefyllfa ble roeddech chi wedi derbyn dogfennau yn gyfrinachol ac yn canfod eich hunain yn wynebu pleidlais yn mynnu fod angen cyhoeddi'r dogfennau hynny, beth fyddai'ch ymateb chi?

"Mae'n hanfodol fod eglurdeb yn y mater yma, a dwi'n gobeithio y bydd modd datblygu'r eglurdeb yna wrth weithio gyda'r Comisiwn a'r Llywydd yn y dyfodol."

Straeon perthnasol