Adfer gardd a thŷ pîn-afal Fictoraidd yn Sir Benfro

Simon Richards a'r tŷ pîn-afalau
Image caption Y garddwriaethydd Simon Richards y tu allan i'r tŷ pîn-afalau

Mae gardd gaerog hanesyddol yn Sir Benfro yn cael ei hadfer gyda'r gobaith o ailsefydlu gardd lysiau.

Cychwynnodd gwaith yn 2013 i ailgodi muriau ac adeiladau'r hen ardd ym Maenordy Scolton, plasty Fictoraidd rhwng Hwlffordd ac Abergwaun sy'n cael ei reoli gan Gyngor Sir Penfro.

Mae 'na apêl am wirfoddolwyr i helpu'r arbenigwr gerddi caerog, Simon Richards gyda'r gwaith o ail-blannu ardal erw o hyd ar y safle ger Spittal.

Y gobaith yw y bydd modd tyfu pîn-afalau yno maes o law mewn hen dŷ gwydr neilltuol ar eu cyfer - nodwedd prin mewn unrhyw ardd.

Mae gan yr adeilad ffenestri mawr sy'n wynebu'r de ac mae'n rhannol dan ddaear er mwyn cael mwy o wres.

'Cryn dipyn o waith'

"Yn y 1800au, roedd bri ar dyfu pîn-afalau o fewn y byd garddio oherwydd roedd yn cymryd 18 mis iddyn nhw ddwyn ffrwyth," meddai Mr Richards, "ac roedd angen tymheredd cyson o tua 18 gradd, cyn bodolaeth boeleri ffansi.

"Mae 'na le tân bychan gyda chyrn simnai lle mae aer cynnes yn cylchdroi o gan y pîn-afalau.

Image caption Prin yw'r tŷ pîn-afal fel nodwedd mewn gerddi

"Roedd gwrtaith ffres yn llenwi'r bylchau o amgylch potiau terracotta, ac yna roeddech chi'n ei gladdu dan haen o asglodion derwen i gynnal y gwres, felly roedd angen cryn dipyn o waith i gynhyrchu pîn-afalau."

Dywedodd Mr Richards y byddai'r maenordy wedi cyflogi tîm o bedwar neu bump o bobl i ofalu am yr ardd gaerog yn y gorffennol.

"Pwrpas gerddi caerog oedd cynhyrchu bwyd a blodau ar gyfer cartref â nifer fawr o bobl, yn cynnwys gweision.

"Roedd y muriau'n ddigon uchel i gadw'r gwyntoedd mwyaf garw draw, ac i dyfu pethau yn eu herbyn, felly roedden nhw'n aml yn 10, 11, 12 troedfedd o uchder."

Image caption O ganlyniad i'r muriau uchel, mae'r hinsawdd yn wahanol oddi mewn i erddi caerog o'i gymharu â'r tu allan

Roedd gerddi caerog hefyd yn cadw anifeiliaid fel ceirw a chwningod draw.

Mae'r garddwyr eisoes wedi plannu 60 math o goed afal traddodiadol, ond mi gymrith flynyddoedd i'w trin cyn eu bod yn barod i ddwyn ffrwyth.

Mewn rhan arall o'r ardd, mae Mr Richards yn bwriadu creu labrinth gan blannu 10,000 o flodau haul.

Mae wedi trefnu ffair blanhigion gerddi caerog yno ddydd Sul, lle bydd arbenigwyr yn cynnig cyngor, a'r gobaith yw hybu diddordeb yn y safle ac i ddenu gwirfoddolwyr i helpu gyda'r gwaith adfer.

Roedd 'na sylw i'r ardd ar raglen Country Focus BBC Radio Wales ddydd Sul.